BALLET CYMRU

Os ydych chi'n mwynhau bale, neu os nad ydych chi erioed wedi gweld cynhyrchiad bale o'r blaen, mae Roald Dahl’s Little Red Riding Hood and The Three Little Pigs gan Ballet Cymru yn fale clasurol coeth ar gyfer oedolion a phlant fel ei gilydd a bydd yn eich gwefreiddio a'ch swyno! Gyda stori gan y storïwr Cymreig mwyaf poblogaidd yn y byd, Roald Dahl, wedi’i osod i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr rhagorol Paul Patterson a’i ddawnsio gwych gan Ballet Cymru, beth arall gall eich cyffroi!

Yn cynnwys gwisgoedd godidog, dawnsio anhygoel, a thafluniadau fideo syfrdanol, roedd y cynhyrchiad hollti bol a hyfryd hwn yn llwyddiant ysgubol i Ballet Cymru yn 2016 a bydd yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Fercher 28 Mehefin.

Fel y cwmni bale a wnaeth adrodd straeon Cymreig am y tro cyntaf, gyda’i ddyluniad arloesol a choreograffi yn arddangos dawnswyr anhygoel o Gymru a ledled y byd, mae Ballet Cymru yn parhau i ddathlu mewn steil treftadaeth ddiwylliannol hynod gyfoethog Cymru.

Mae enw da’r cwmni am gyflwyno nosweithiau syfrdanol o ddawns yn parhau i dyfu yn dilyn teithiau hynod lwyddiannus o DREAM a GISELLE yn 2021 a 2022.

Mae Little Red Riding Hood and The Three Little Pigs yn seiliedig ar sgorau cerddorol rhagorol a gydnabyddir yn rhyngwladol gan y cyfansoddwr Paul Patterson. Comisiynwyd y ddau sgôr gan The Dahl Foundation ac maen nhw wedi dod yn glasuron plant sy’n cael eu chwarae ar draws y byd. Cafodd sgôr “Little Red Riding Hood” sylw mewn rhaglen arbennig ar Ddydd Nadolig y BBC ym 1995 a oedd yn cynnwys lleisiau Ian Holm, Julie Walters a Danny DeVito. Nawr mae sgorau disglair Patterson wedi'u gosod mewn dawns am y tro cyntaf. Coreograffwyd y bale clasurol eithriadol hwn gan Darius James OBE ac Amy Doughty gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwr Paul Patterson, gwisgoedd gan Steve Denton a chynllun goleuo syfrdanol gan John Bishop.

Os yr ydych yn gweld un bale yn unig yn 2023 – sicrhewch eich bod yn gweld hwn!

Bydd Ballet Cymru: Roald Dahl’s Little Red Riding Hood and the Three Little Pigs yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Fercher 28 Mehefin am 7.30pm. Tocynnau yn £19.00 | £18.00 CONS | £11.00 DAN 8 oed. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.