Cymryd Rhan – Dewch Yn Greadigol Yn Y Torch Wrth I’r Tymor Hydref Ddechrau!

O’r Theatr Ieuenctid boblogaidd i’r Gweithdai Ysgrifennu Creadigol i Oedolion – mae gan Theatr Torch, Aberdaugleddau ddewis gwych o weithgareddau yn Nhymor yr Hydref hwn. Yn dilyn ymlaen o’i rhediad hynod lwyddiannus o The Wind and the Willows dros yr haf, mae’r Theatr Ieuenctid yn fwy poblogaidd nag erioed, ac mae lleoedd yn llenwi’n gyflym.

Mae Theatr ieuenctid fywiog y Torch ar gyfer pobl ifanc rhwng saith a 18 oed ac mae’n cyfarfod bob wythnos yn ystod y tymor. Maen nhw’n chwilio am aelodau hen a newydd i ymuno â nhw am dymor cyffrous yr Hydref! Mae'r tymor hwn yn digwydd o 17 Medi tan 3 Rhagfyr gyda grwpiau amrywiol ar gyfer gwahanol oedrannau.

Grŵp 1: Blynyddoedd ysgol 3 a 4 yn cyfarfod ar DDYDD MAWRTH 4:00pm i 5:30pm

Grŵp 2: Blynyddoedd ysgol 5 a 6 yn cyfarfod ar DDYDD MERCHER 4:30pm i 6:00pm

Grŵp 3: Blynyddoedd ysgol 7, 8, a 9 yn cyfarfod ar DDYDD MAWRTH 6.30pm i 8:00pm

Grŵp 4: Blynyddoedd ysgol 10, 11, 12 a 13 yn cyfarfod ar DDYDD MERCHER 7:30pm i 9:30pm

Mae pob grŵp yn cymryd rhan mewn perfformiad arddangos anffurfiol i deulu a ffrindiau yn Stiwdio Theatr Torch ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr.

Goruchwylir y Theatr Ieuenctid gan y cyfarwyddwr a’r dramodydd Tim Howe, sef Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned y Torch.

Dywedodd: “Rydyn ni'n chwarae gemau, yn creu straeon, ac yn rhannu gwaith ar lwyfannau'r Torch, gyda'r cyfan yn cael ei oruchwylio gan ein tîm gwych, cyfeillgar ac ymroddedig. Nid yw'r sesiynau wythnosol yn ymwneud ag actio a theatr yn unig; rydym yn sicrhau bod yr holl bobl ifanc sy'n mynychu yn dysgu sgiliau cymdeithasol, datrys problemau, a gwaith tîm. Yn bwysicaf oll, maen nhw'n cael hwyl ac yn gwneud ffrindiau newydd.

“I lawer o’r bobl ifanc sy’n mynychu dyma’r tro cyntaf iddynt ymwneud â’r theatr a gweld eu hyder yn tyfu trwy weithgareddau lle mae eu lleisiau a’u barn yn cael eu gwerthfawrogi, a dyna yw rhan orau’r swydd.”

Y ffi dymhorol yw £90.00, ac mae taliadau rhanedig ar gael ar draws y tymor.

Mae Tim hefyd yn gyfrifol am y Gweithdai Ysgrifennu Creadigol i Oedolion sydd ar agor i bawb 18 oed a hŷn ac yn rhedeg o ddydd Iau 26 Medi tan ddydd Iau 5 Rhagfyr.

“Bydd oedolion â dawn greadigol yn mwynhau’r sesiynau Ysgrifennu Creadigol ar gyfer y llwyfan!” parhaodd Tim. “Mae’r sesiynau pythefnosol anffurfiol llawn hwyl yn canolbwyntio ar archwilio a datblygu sgiliau ysgrifennu creadigol, yn ogystal â darparu cyfle cymdeithasol gwych i sgwrsio â phobl o’r un anian.”

Arweinir y sesiynau gan dîm arbenigol Theatr Torch. Bydd aelodau staff y Torch yn helpu i gael syniadau’r awduron ar y dudalen, gan roi lleisiau i gymeriadau, a chefnogi awduron y dyfodol i rannu gwaith ag eraill.

“Er mwyn cael y gorau o’ch profiad, ein nod yw creu ardal feithringar a chreadigol fel y gallwn droi unrhyw un yn awdur ar gyfer y llwyfan,” meddai Tim.

Mae pob sesiwn yn costio £10.00 neu £50 am y tymor.

Cynhelir y sesiynau Ysgrifennu Creadigol ar ddydd Iau o 6.30pm – 8.30pm yn Theatr Torch, gan ddechrau ar ddydd Iau 26ain Medi. Dyddiadau pellach: 3 a 17 Hydref, 7 a 21 Tachwedd a 5 Rhagfyr. Mae Tymor yr Hydref Theatr Ieuenctid y Torch yn rhedeg o 17 Medi tan 3 Rhagfyr.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa Docynnau Theatr Torch ar 01646 695267 neu Tim - Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned – tim@torchtheatre.co.uk

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.