ANTUR LLAWN HWYL I'R TEULU YN THEATR Y TORCH

Mae anturiaethau rhyngweithiol Tom Fletcher ar gyfer dychymyg mawr yn llamu o dudalen i lwyfan, fel yr annwyl ‘Who’s in Your Book?’ Bydd y gyfres yn ymddangos am y tro cyntaf fel sioe gerdd newydd sbon a bydd yn ymweld â Theatr y Torch fis Tachwedd yma! Disgwyliwch hwyl di-ben-draw i'r teulu wrth i There’s a Monster In Your Show dasgu i lwyfan Sir Benfro.

Mae grŵp o berfformwyr yn paratoi i ddechrau eu sioe, ond yn darganfod yn gyflym nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain ar y llwyfan. Mae Anghenfil Bach eisiau bod yn rhan o'r hwyl hefyd! Gyda gwahoddiad i’w ffrindiau, Dragon, Alien ac Unicorn i ymuno ag ef, gallwch ddisgwyl comedi ac anhrefn wrth iddynt helpu i greu sioe hudolus, gan ddysgu am lawenydd llyfrau a chyfeillgarwch ar hyd y ffordd. A chi’n gwybod beth? Mae gwahoddiad i chi i hefyd!

Yn antur 50 munud llawn egni yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol fywiog, mae There’s a Monster In Your Show yn gyflwyniad perffaith i theatr fyw i bob aelod o'r teulu ei fwynhau. Disgwyliwch llond bol o hwyl chwareus i’ch rhai bach wrth i’w hoff gymeriadau ddod yn fyw mewn sioe sy’n llawn dop o eiliadau rhyngweithiol i’w mwynhau gyda’ch gilydd.

Nid oes angen cyflwyniad ar yr awdur Tom Fletcher – mae ei weithiau'n cynnwys List, The Creakers, Space Band a’r gwerthwr gorau ar unwaith The Danger Gang, mae Tom yn hanner y ddeuawd awdur y tu ôl i’r gyfres llyfr lluniau Dinosaur that Pooped hefyd, sydd wedi gwerthu dros 1.5 miliwn o gopïau. Mae ei lyfrau wedi’u cyfieithu i 38 o ieithoedd a hyd yma mae wedi gwerthu dros bum miliwn o gopïau o’i lyfrau yn y DU yn unig.

Yn ogystal â’i yrfa fel awdur, erbyn iddo droi'n 21 oed, roedd Tom wedi ysgrifennu 10 sengl rhif 1 yn y DU ac ef yw un o sylfaenwyr y band McFly. Mae’r band sydd wedi ennill Gwobr Brit wedi gwerthu dros 10 miliwn o recordiau ar draws y byd ac mae Tom hefyd wedi ysgrifennu caneuon i artistiaid eraill gan gynnwys One Direction, Busted a 5SOS.

There's a Monster in Your Show... ac mae’n edrych ymlaen i’ch cyfarfod!

Bydd There’s a Monster in Your Show yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Iau 2 Tachwedd am 1pm a 4pm. Tocynnau yn £14 | Plant £12 Teulu: £48. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.