Straeon Trawiadol yng Nghlwb Bocsio Merlin’s Bridge

Bydd sioe un fenyw newydd bwerus Frankie Walker, Angry Snatch: A reclamation job in 15 rounds yn cychwyn ei thaith yng Nghymru yr wythnos nesaf, yn llawn bwrlwm ar ôl llwyddiant mawr yn yr Ŵyl Ymylol.  Mae'r sioe, sy'n cael ei pherfformio mewn cylch bocsio maint llawn, yn ymweldâChlwb Bocsio Merlin’s Bridge ar 19 o Hydref ar gyfer ei pherfformiad olaf o’i thaith ar draws Cymru.

Mae’r gwaith wedi denu diddordeb a chanmoliaeth eang am adrodd straeon trawiadol a’r cyfuniad o ffurfiau theatr a bocsio. Gan gyfuno theatr gorfforol a dawns gyda'r gair llafar a rhythmau bocsio, mae Frankie yn gwahodd cynulleidfaoedd i ymuno â hi mewn myfyrdod gonest ar ei phrofiad hi ei hun ac eraill o gam-drin domestig, a’r rôl a chwaraeodd bocsio yn ei thaith tuag at iachâd ac adennill ei bywyd.

Ysgrifennodd a dyfeisiodd Frankie y gwaith ar y cyd â'r cyfarwyddwr Meg Fenwick a'r coreograffydd Cai Tomos, fel ffordd o wneud synnwyr o'i phrofiad. Wrth wneud hynny, mae’n cynnig cipolwg hanfodol ar yr agweddau llai gweladwy, dryslyd, rhwystredig o lywio, dianc a gwella ar ôl cam-drin domestig. 

Wrth siarad am y gwaith dywedodd Frankie:

Rwy'n angerddol am dorri tabŵs o amgylch cam-drin domestig ac er nad dyma fy stori i, rydw i'n artist gyda phrofiad byw. Mae defnyddio ein sgiliau fel gwneuthurwyr theatr i fynd i’r afael â cham-drin mewn ffordd sy’n onest a gobeithio’n brydferth, nid yn unig yn gyfle i wella, cael ein clywed a chynrychioli lleisiau ymylol, ond hefyd yn agor mwy o sgyrsiau am reolaeth orfodol.  Mae'n dorcalonnus bod cymaint o bobl yn byw bywydau wedi'u heffeithio mor ddwfn ganddo.”

Mae'r sioe yn canolbwyntio ar yr effaith enfawr a'r rôl y mae bocsio yn ei chwarae wrth rymuso dioddefwyr cam-drin domestig i wella ac adfer.  Mae’r sioe wedi’i chreu mewn cydweithrediad â nifer o arbenigwyr a gwasanaethau cymorth cam-drin domestig, goroeswyr cam-drin domestig, yn ogystal ag aelodau o’r gymuned focsio gan ledaenu’r gair am fanteision y gamp wrth helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau a’u hyder.  Drwy wreiddio ei hun mewn cymunedau ar draws y daith, mae Frankie yn gobeithio cyrraedd cynulleidfa ehangach, gan godi ymwybyddiaeth o’r unigedd sy’n wynebu dioddefwyr.  

Cafodd y sioe ymateb gwych gan feirniaid a chynulleidfaoedd Caeredin fel ei gilydd, gyda phedair seren gan The Scotsman ac aelodau'r gynulleidfa yn cynnig ymatebion teimladwy: 

'Mae yna bethau sy'n anodd eu mynegi, pethau a allai fod angen gwahanol ieithoedd i'w dweud, rwy'n argymell eich bod chi'n mynd i weld perfformiad Frankie Walker

'Am feistrolaeth ryfeddol ar wahanol gyfryngau artistig, wedi’u plethu’n hyfryd gyda’i gilydd, ac am waith anhygoel, yn bersonol ac yn artistig’

Bydd Angry Snatch: a reclamation job in 15 rounds yn ymweld â Chlwb Bocsio Merlin’s Bridge, Hwlffordd ar ddydd Sadwrn 19 Hydref am 2pm a 7pm. Tocynnau: £10. I archebu eich tocynnau neu am wybodaeth pellach, cysylltwch a’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.