BLOG RHIF 3 - ANGHARAD SANDERS - YN CANU DROS IECHYD MEDDWL
Cerddor, cyfarwyddwr cerdd a chantores uchel ei pharch yw Angharad. Mae hi'n angerddol am weithio gyda phobl ifanc a thalent sydd ar ddod. Rydyn ni'n ffodus i'w chael hi yma yn y Torch. Cewch ddarganfod mwy am Angharad drwy glicio yma.
Canu dros Iechyd Meddwl
Wrth fyw yn y byd cyfnewidiol parhaus hwn, sy’n newid yn gyflym, mae llawer o bobl, gan gynnwys yr ifanc, yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl o ryw fath neu’i gilydd. Mewn gwirionedd amcangyfrifir yn 2022, bod un o bob chwech o bobl yn y DU mewn unrhyw wythnos benodol yn profi problemau iechyd meddwl (fel gorbryder ac iselder). Ond er bod y cynnydd hwn mewn materion iechyd meddwl fel pryder cymdeithasol, pyliau o banig a mwy yn peri cryn ofid, mae cynnydd hefyd mewn ymwybyddiaeth o effaith ymarfer rhannau o’r ymennydd a’r corff a all ein helpu ni oll i leihau’r teimladau hyn. Mae hyn wrth galon fy ngwaith cyfan yn y celfyddydau perfformio.
Fy mwriad trwy fy ngwaith - yn y gymuned, gyda Lleisiau'r Torch, gydag artistiaid ifanc ar y llwyfan ac oddi arni, yw cynnig cyfle i fod yn greadigol mewn amgylchedd cadarnhaol a meithringar ac, tra ar yr un pryd, yn rhoi ymarfer da i'r nerf fagws. Mae hyn yn caniatáu i fecanwaith ymladd neu hedfan y corff gael ei ysgogi, gan gynhyrchu teimlad o dawelwch, trugaredd a chysylltiad.
Pleser ac yn wir braint yw cael gweithio gyda Lleisiau’r Torch. Nid yn unig y mae’r côr yn gwneud sŵn godidog, yn creu harmonïau ac yn dod â cherddoriaeth yn fyw yn wythnosol, ond mae’r holl ymarferion a wnawn yn annog cysylltiad ag anadl ac yn gweithio tuag at ysgogi’r nerf fagws a’i ddylanwad tawelu. Yn aml gellir anghofio effaith canu mewn grŵp ond mae’n rhywbeth y mae dynolryw wedi’i wneud ers y defnydd cyntaf o’r llais; creu cymuned leisiol a throsglwyddo caneuon a straeon o genhedlaeth i genhedlaeth fesul canu gwerin a cherddoriaeth.
Mae astudiaethau di-ri wedi bod ar effaith canu ar iechyd corfforol ac
emosiynol, ond un o’r ffeithiau prydferthaf a ddarganfyddais yw bod ein holl guriadau calon yn ystod ein hymarferion yn uno; felly rydyn ni'n wirioneddol gôr sy'n cydamseru â'n gilydd ac â'r gerddoriaeth rydyn ni'n ei chanu.
Mae’r cysylltiad hwn â llais, anadl ac adrodd straeon yn anrheg wirioneddol yr ydym yn aml wedi anghofio ei datblygu yn y byd “cyflym” hwn. Weithiau mae rhoi’r cyfle i chi neu’ch plant gamu i ffwrdd o dechnoleg ac i fyd o berfformio a chreu yn rhoi’r cyfle i’n corff a’n meddwl ailgysylltu, ailosod ac ysgwyd oddi wrth ofalon y dydd. Dyma pam y bûm yn anelu drwy gydol y cyfnodau clo i barhau i gynnig cerddoriaeth a chân dros y rhyngrwyd. Pe bai’n estyn allan at un person ac yn gwella eu hiechyd meddwl am y cyfnod byr hwnnw o amser, yna mae hynny’n wirioneddol yn anrheg yr wyf yn hynod hapus o fod wedi’i rhoi.
Yn ystod ein gweithdy diweddar “Legally Blonde Jr”, roeddem yn awyddus i feithrin amgylchedd o bositifrwydd a charedigrwydd trwy gydol y broses gyfan. Rwy’n angerddol na ddylid byth ddweud wrth artist ifanc “ni allwch chi” neu nad ydyn nhw “yn ddigon” mewn rhyw ffordd. Yn rhy aml, rwyf rwyf wedi cyfarfod ag oedolion sy’n ofni canu neu mynegi oherwydd bod athro yn eu gorffennol wedi dweud wrthynt na allent neu na ddylent. Fy nghwestiwn i’r athrawon hynny yw, a allwch chi ddangos mesur “digon” i mi? Sut ydych chi’n gwybod, oherwydd bod person ifanc “yn methu” ar hyn o bryd, ac o gael anogaeth, amser ac arweiniad cadarnhaol priodol, y gallant “allu” ymhellach yn y dyfodol? Ac wrth yr oedolion hynny sydd wedi cael gwybod hyn byddwn i’n dweud, pam gadael i farn un person eich atal rhag gwneud rhywbeth sy’n caniatáu i chi deimlo’n rhydd ac yn iachach? Ceisiwch atal y safbwyntiau cyfyngol hynny oherwydd yn aml maent yn dod gan bobl anwybodus neu sydd â diffyg profiad. Gadewch eich llais mewnol allan, gadewch iddo ganu, ac o gael amser efallai y gall ddod yr hyn yr ydych am iddo fod.
Yn ôl i “Legally Blonde Jr” ac ochr yn ochr â’n gwaith ar reoli anadl, ymwybyddiaeth ofalgar a pherfformio ar gyfer y gweithdy cyfan, roedd ein holl fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn mynegiant cadarnhaol, cadarnhad cadarnhaol a charedigrwydd tuag at ei gilydd. Roedd y canlyniadau’n bleserus i’w gweld, nid yn unig yn eu perfformiadau eithriadol mewn dim ond wythnos o waith, ond yn eu hagwedd, eu hethos a’u hagweddau hynod gefnogol tuag at ei gilydd. Pleser pur oedd bod yn dyst a bod yn rhan o’r cyfan.
Drwy hyn oll, byddwn yn annog unrhyw un, o unrhyw oedran, o unrhyw allu, i fynd allan i gymryd rhan mewn rhai celfyddydau perfformio; dechreuwch ganu, dechreuwch ddawnsio, ymgysylltwch â'ch anadl a rhowch ymarfer da i'r nerf fagws hwnnw. Efallai ymhen ychydig flynyddoedd y gallwn gofrestru gostyngiad mewn materion iechyd meddwl a chynnydd mewn positifrwydd a chreadigrwydd.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.