TAITH HYDREF ANGEL 2022
Yr hydref hwn, yn dilyn rhediad llwyddiannus yng Ngŵyl Fringe Caeredin, mae cynhyrchiad Cwmni Theatr y Torch sef Angel yn mynd ar daith gyda thaith saith wythnos o berfformiadau yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys tair wythnos yn Llundain.
Mae Angel yn ddrama un fenyw bwerus ac ingol, wedi’i hysgrifennu gan y dramodydd clodwiw Henry Naylor. Dyma stori chwedlonol Rehana; brwydr ddewr un fenyw yn erbyn y bygythiad mwyaf i’w thref a’i phobl.
Wedi'i chyfarwyddo gan Peter Doran ac yn cynnwys Yasemin Özdemir fel yr Angel o'r un enw, cynhyrchwyd y ddrama yn wreiddiol yn Theatr y Torch yn 2021. Wrth ddychwelyd i'r rhan yn ystod yr ymarferion, dywedodd Yasemin, a gafodd ei magu yn Hwlffordd ac sy'n gyn-fyfyriwr y Theatr Ieuenctid:
“Mae wedi bod yn bleser dod yn ôl at Angel. Rydyn ni'n ailddarganfod y testun ac mae'n teimlo fel cynhyrchiad llawer mwy newydd. Mae rhannau o’r ddrama yn canu’n wahanol i mi – rydw i wedi dod o hyd i elfennau newydd iddi, ond mae’r stori’n dal yn bwerus ac yn berthnasol.”
Ychwanegodd Peter Doran:
“Nid yw Angel wedi colli dim o’i phŵer a’i heffaith. Heb os, dyma un o’r dramâu mwyaf pwerus i mi ei weld neu weithio arni erioed. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod y rhyfel yn yr Wcrain wedi dod ag effaith rhyfel yn nes adref gan roi atsain mwy pwerus i gynulleidfaoedd ar draws y DU. Mae Yasemin a minnau’n mwynhau gweithio gyda’n gilydd unwaith eto ac rydym wrth ein bodd yn dod â’r darn pwerus hwn o theatr i gynulleidfa hollol newydd.”
Mae Angel yn adrodd hanes Rehana a wnaeth aros yn ei thref, Kobane, i ymladd yn dilyn yr ymosodiad gan luoedd ISIS y ffodd teuluoedd oddi wrthynt. Fel saethwr, honnir i Rehana ladd mwy na 100 o ymladdwyr ISIS. Pan ddaeth ei stori allan, daeth yn rhyngrwyd-enwog ac yn symbol o wrthwynebiad yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd a chafodd ei galw’n ‘Angel Kobane’.
Mae Angel, yn sioe un fenyw, ac yn drydedd stori yn nhrioleg Arabian Nightmares gan Henry Naylor. Fe’i llwyfannwyd gyntaf i ganmoliaeth fawr yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn 2016. Ers hynny mae wedi cael ei gweld ar draws y byd i ganmoliaeth fawr gan y beirniaid, gan ennill gwobrau mewn nifer o wyliau rhyngwladol.
Yn dilyn derbyn clod y beirniaid yn y Fringe Caeredin eleni, mae’r sioe bellach yn mynd ar daith i leoliadau ar draws Cymru a Lloegr, gan ddychwelyd i’r Torch ar 22 Hydref ar ddiwedd y daith.
Sylwch - mae Angel yn cynnwys iaith gref a golygfeydd trallodus a all fod yn anghyfforddus i rai. Argymhellir y Cynhyrchiad hwn ar gyfer y rhai 14 oed a hŷn.
Dyddiadau Taith Hydref Angel 2022
30 Awst - 17 Medi
Hope Theatre, Llundain
thehopetheatre.com | 0333 666 3366
26 & 27 Medi
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
theatrclwyd.com | 01352 344101
28 Medi
Harrogate Theatre
harrogatetheatre.co.uk | 01423 502116
29 Medi
The Dukes, Lancaster
dukeslancaster.org | 01524 598500
30 Medi
Galeri, Caernarfon
galericaernarfon.com | 01286 685222
1 Hydref
Courtyard Henffordd
courtyard.org.uk | 01432 340555
4 - 8 Hydref
Theatr Sherman, Caerdydd
shermantheatre.co.uk | 02920 646900
11 Hydref
Theatr Lyric, Caerfyrddin
theatrausirgar.co.uk | 03452 263510
12 Hydref
Theatr Mwldan, Aberteifi
mwldan.co.uk | 01239 621200
13 Hydref
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
aberystwythartscentre.co.uk | 01970 623232
14 Hydref
Canolfan Celfyddyau Taliesin, Abertawe
taliesinartscentre.co.uk | 01792 602060
15 Hydref
Canolfan Celfyddydau Pontardawe
pontardaweartscentre.com | 01792 863722
19 Hydref
Theatr Glan yr Afon, Casnewydd
newportlive.co.uk | 01633 656757
20 Hydref
Theatr Brycheiniog, Aberhonddun
brycheiniog.co.uk | 01874 611622
21 Hydref
Storyhouse, Chester
storyhouse.com | 01244 409 113
22 Hydref
Theatr Torch, Aberdaugleddau
torchtheatre.co.uk | 01646 695267
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.