THEATR FYW YN DYCHWELYD I LWYFAN Y TORCH

Mae Cwmni Theatr y Torch yn dod â theatr fyw yn ôl i Sir Benfro yr hydref hwn gyda chynhyrchiad llwyfan pwerus ac ingol o Angel wedi'i ysgrifennu gan y dramodydd o fri Henry Naylor. Stori chwedlonol Rehana yw Angel; brwydr ddewr un fenyw yn erbyn y bygythiad mwyaf i'w thref a'i phobl.

Yn 2014 roedd teuluoedd Cwrdaidd yn ffoi rhag Kobane er mwyn osgoi ymosodiad anochel ISIS; fe wnaeth Rehana i ymladd ac amddiffyn ei thref; fel cêl-saethwr, honnir iddi ladd mwy na 100 o ymladdwyr ISIS. Pan ddaeth ei stori i’r amlwg, daeth yn gyffro’r rhyngrwyd ac yn symbol o wrthwynebiad yn erbyn y Dalaith Islamaidd ac fe’i gelwir yn ‘Angel of Kobane’.

Sioe un-fenyw yw Angel, ac yn drydedd stori yn nhrioleg Arabian Nightmares gan Henry Naylor. Llwyfannwyd hi yn gyntaf yn 2016 i gymeradwyaeth wych yn yr Edinburgh Fringe Festival. Ers hynny mae wedi cael ei gweld ar draws y byd i ganmoliaeth feirniadol fawr, gan ennill gwobrau mewn nifer o wyliau rhyngwladol. Mae Theatr y Torch yn dod â’u cynhyrchiad eu hunain atoch chi ym mis Hydref, wedi’i gyfarwyddo gan Peter Doran, wedi’i ddylunio gan Sean Crowley ac yn cynnwys Yasemin Özdemir fel yr Angel eponymaidd.

Magwyd Yasemin yn Hwlffordd ac mae'n gyn-aelod o Theatr Ieuenctid y Torch. Mae'r Torch yn falch iawn o'i chroesawu yn ôl i'r llwyfan yma yn Aberdaugleddau yn rôl arweiniol Angel.

Ar ei dychweliad i Theatr y Torch dywedodd:

“Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio yn y Torch, hi oedd fy theatr leol pan oeddwn i’n tyfu i fyny a mynychais y Theatr Ieuenctid am nifer o flynyddoedd. Ni allaf gredu fy mod yn chwarae rhan mor wych, mor gynnar yn fy ngyrfa broffesiynol. Rwy'n mwynhau pob eiliad ohono.”

Disgwylir i’r cynhyrchiad gael ei berfformio yng ngofod Stiwdio Theatr y Torch dros 12 noson yn olynol ac mae’n addo bod yn archwiliad trawiadol o stori Angel, yn ystod cyfnod pan mae’r themâu yn parhau i fod yn berthnasol ac yn bresennol yn y gymdeithas fodern.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch Peter Doran:

“Mae Angel yn un o’r sioeau hynny, sy’n aros yn y cof am amser hir, ni allwch roi'r gorau i feddwl am y stori. Heb os, dyma un o'r dramâu mwyaf pwerus a welais erioed. Mae'n bleser cael gweithio ar ein fersiwn ein hunain ohono.”

Bydd cynhyrchiad Angel yn rhedeg ochr yn ochr ag arddangosfa Oriel Joanna Field, gerllaw Caffi’r Torch, a fydd yn dangos gwaith celf gan ffoaduriaid o Wersyll Penally yn ogystal â phrosiect Stori Sir Benfro.

Mae Angel yn rhedeg o ddydd Mawrth 12fed i ddydd Sadwrn 23ain Hydref gyda pherfformiad pellter cymdeithasol ar gael ar ddydd Llun 18fed Hydref. Mae hefyd perfformiad deongledig BSL (dehonglwr Liz May) ar ddydd Iau 19eg Hydref. Tocynnau’n costio £14, £13 consesiynau a £8.50 ar gyfer U26. Tocynnau ar gael i’w harchebu fesul Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu www.torchtheatre.co.uk.

Nodwch – mae Angel yn cynnwys iaith gref a golygfeydd torcalonnus efallai y bydd rhai ohonoch yn eu darganfod yn anesmwyth. Argymhellir y cynhyrchiad hwn ar gyfer y rheiny 14 ac i fyny.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.