Andrew Scott sy’n syfrdanu yn yr ailadroddiad un-dyn hwn o gomedi ddu glasurol Chekhov, Uncle Vanya
Mae gobeithion, breuddwydion a gofidiau yn cael eu gwthio i’r amlwg yn yr addasiad un-dyn hwn sy’n archwilio cymhlethdodau emosiynau dynol yn narllediad Vanya gan National Theatre Live. Wedi’i addasu gan Simon Stephens, ar ôl Anton Chekhov, a’i gyfarwyddo gan Sam Yates, mae Andrew Scott (Fleabag a Sherlock) yn dod â chymeriadau lluosog yn fyw yn y fersiwn newydd radical hon o Uncle Vanya gan Chekhov.
Wedi’i recordio’n fyw o Theatr The Duke of York yn ystod ei rediad gwerth chweil yn y West End Llundain, bydd Vanya yn chwarae mewn sinemau’n unig yn 2024, ac yn cael ei darlledu yn Theatr y Torch ar nos Fawrth 27 Chwefror. Hyd yma, mae’r cynhyrchiad wedi derbyn adolygiadau gwych.
Wedi’i ddisgrifio gan iNews fel “Perfformiad y flwyddyn” a “Dyma ymateb hardd, torcalonnus i drasigomedi Chekhov. Mae Scott wir yn wych, yn gynnil, ffraeth ac yn fanwl gywir. Yn aruthrol,” gan y Financial Times, mae hon yn sioe un dyn nad ydych chi am ei cholli.
Gydag Andrew Scott, sy’n enwog am ei rannau ar y teledu yn Sherlock a Fleabag, bydd ei gefnogwyr wrth eu bodd gyda’r ddrama un-dyn wrth iddo chwarae’r cymeriad teitlog.
Caiff Vanya ei darlledu yn Theatr y Torch ar nos Fawrth 27 Chwefror am 7pm. Yn addas ar gyfer oed 15+. Pris tocyn: £15. Consesiwn: £13. O dan 16: £8.50. Am docynnau, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.