ANDRE RIEU

Mae Brenin y Waltz yn eich gwahodd i'w gyngerdd sinema cwbl newydd “Love is All Around”, o'i dref enedigol hardd Maastricht yn yr Iseldiroedd. Yn dangos yn Theatr y Torch ar ddydd Sadwrn 26 Awst a dydd Sul 27 Awst bydd y feiolinydd a’r cyfansoddwr o’r Iseldiroedd André Rieu, unwaith eto yn llwyfannu ei ddigwyddiad haf blynyddol godidog a bydd yn fwy poblogaidd nag erioed! 

Bydd y cyngerdd a gynhelir yn Sgwâr eiconig Vrijthof yn wledd gerddorol gyda darnau twymgalon wedi’u dewis yn gariadus gan André, yn cwmpasu’r clasuron, caneuon poblogaidd i gyd-ganu iddynt, a waltsiau hyfryd sy’n gwneud i chi fod am godi a dawnsio.

Ynghyd â’i Gerddorfa annwyl Johann Strauss, mae André yn ymuno â’r Gospel Choir swynol a gwesteion syrpreis arbennig, gan ddod â chi a’ch anwyliaid i barti adfywiol, rhamantus, llawn hwyl yn eich sinema leol - byddwch yn teimlo bod cariad o’ch cwmpas!

Rhannwch brofiad cyngerdd sy’n llawn cerddoriaeth, dawns, cariad a hapusrwydd - dim ond mewn sinemâu.

Caiff André Rieu’s 2023 Maastricht Concert: Love Is All Around ei ddarlledu yn Theatr y Torch ar ddydd Sadwrn 26 Awst am 7pm a dydd Sul 27 Awst am 2pm. Tocynnau: Llawn £20.00 | £19.00 CONS. Gellir prynu tocynnau o’r Swddyfa Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.