AN EVENING WITHOUT KATE BUSH
P’un a ydych chi wedi bod yn gefnogwr ers degawdau neu wedi ymuno â’r dorf yn ddiweddar trwy’r ffenomen ‘Stranger Things’, ni fu erioed amser gwell i ryddhau eich Bush mewnol a dathlu yn y sioe lawen, unigryw hon sy’n llawn meddwl – An Evening Without Kate Bush yn Theatr y Torch y Chwefror hwn.
Mae Kate Bush yn eicon go iawn: mae ei cherddoriaeth yn unigryw, yn ymestyn dros bron i bum degawd, gan ennill gwobrau di-ri a gwerthu miliynau o recordiau, ond mae’r fenyw ei hun yn dipyn o enigma ac mae’r perfformiad hwn yn y Torch gan Sarah-Louse Young yn siŵr o apelio i gefnogwyr Bush.
Yn dilyn ei rhediadau yn y ‘Fringe’ Caeredin a wnaeth werthu pob tocyn, sydd wedi cael canmoliaeth y beirniaid, dau dymor Theatr Soho a theithiau o amgylch y DU 2020-2022 mae’r sioe hynod lwyddiannus hon yn dychwelyd! Bydd Sarah-Louise a’i chyd-grëwr Russell Lucas yn talu teyrnged ogoneddus i gerddoriaeth, ffans, a chwedloniaeth un o leisiau mwyaf dylanwadol cerddoriaeth Brydeinig.
Wedi derbyn pum seren ac wedi ei disgrifio’n “Gyfareddol” gan y Daily Telegraph, mae’r sioe yn addas ar gyfer y rheiny 12 mlwydd oed yn ymweld â Theatr y Torch ddydd Iau 23 Chwefror a disgwylir i docynnau werthu'n gyflym.
Mae Sarah-Louise Young, sy'n chwarae rhan Kate, wedi bod yn gefnogwr ers yr oedd yn ifanc.
“Rydw i wastad wedi caru cerddoriaeth Kate Bush ac fel plentyn o’r 70au a’r 80au rwy’n cofio’r ymddangosiad cyntaf hwnnw ar Top Of The Pops a’r holl fideos a chaneuon anhygoel a ddilynodd. Hefyd roedd fy mrawd yn ei ffansïo ychydig felly roedd ei cherddoriaeth bob amser yn treuddio drwy'r tŷ” meddai Sarah-Louise.
Bydd An Evening Without Kate Bush yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Iau 23 Chwefror am 7.30pm.Tocynnau’n £22.00 | £20.00 Consesiynau | £18.00 U26. Gellir prynu tocynnau o Theatr y Torch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.