Aled Jones yn y Torch!
Aled Jones – y bachgen â’i lais angylaidd ifanc a swynodd y byd fydd yn taro'r ffordd ar gyfer taith fawr ar draws y DU, lle bydd yn mynd Full Circle ac yn ymddangos ar lwyfan Theatr y Torch ar ddydd Mercher 27 Mawrth y flwyddyn nesaf.
Gan werthu dros saith miliwn o albymau, Aled oedd y seren wreiddiol, glasurol a wnaeth ei lwyddiant mewn maes arall. Fe wnaeth ei recordiad o Walking in the Air, o'r ffilm animeiddiedig The Snowman, roi enw cyfarwydd iddo ac mae wedi dod yn rhan annatod o ddathliadau Nadoligaidd y genedl. Yr un mor gartrefol ar y llwyfan clasurol, neu’n serennu mewn cynyrchiadau theatr gerdd yn West End Llundain, mae ei gredydau’n cynnwys prif rannau yn Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, Chitty Chitty Bang Bang a White Christmas gan Irving Berlin.
Meddai Aled: “Mae’n amser dod i’r Full Circle. Rwy'n gyffrous iawn am y daith hon. Byddaf yn adrodd straeon am sut y dechreuodd y cyfan, ac yna'n mynd â'r gynulleidfa ar daith fy ngyrfa. Bydd caneuon, bydd straeon, a bydd un neu ddau syrpreis. Bydd yna lyfr hefyd – mae’n mynd i fod yn 2024 prysur iawn a dw i’n edrych ymlaen at fynd ar y ffordd ac ymweld â mannau diddorol nad ydw i erioed wedi ymweld â nhw o’r blaen ac wrth gwrs gweld fy nghefnogwyr gwych.
“Bu rhai adegau anhygoel – cyfarfod â’r teulu Brenhinol, chwarae mewn neuaddau cyngerdd ar draws y byd, canu ym mhriodas Bob Geldof a Paula Yates – ac, wrth gwrs, recordio Walking In The Air, i Songs Of Praise a Classic FM.
“Bydd y sioe yn straeon a chaneuon o bob rhan o fy ngyrfa. Byddaf yn canu rhai o fy ffefrynnau, yn adrodd rhai o fy straeon, ac yn dangos ffotograffau nas gwelwyd o’r blaen. Pwy a wyr, efallai y bydd y gynulleidfa hyd yn oed yn cael gofyn ychydig o gwestiynau.”
Fel canwr, mae galw mawr am Aled yn fyd-eang ac mae wedi perfformio yn lleoliadau mwyaf eiconig y byd, o’r Royal Albert Hall yn Llundain i Dŷ Opera Sydney. Mae Aled yn ffefryn gyda'r Teulu Brenhinol ac fe roddodd berfformiad preifat i'r Brenin Charles III ym Mhalas Kensington.
A bellach, mae’n paratoi i adrodd ei stori yn ystod cyfres o gyngherddau agos-atoch, gan ddechrau yng ngwanwyn 2024.
Mae’n ddarlledwr teledu a chyflwynydd radio gwobrwyedig sydd wedi cyfweld cannoedd o sêr A-List dros y blynyddoedd. Mae’n arwain Songs of Praise y BBC a’i sioeau ei hun ar fore Sadwrn a Sul ar Classic FM.
Nawr, ar ôl 40 mlynedd yn y busnes, mae’n edrych yn ôl ar yrfa ryfeddol gyda sioe un dyn, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth nas clywyd erioed o’r blaen, hanesion y degawdau ac am y tro cyntaf, ei stori’n cael ei hadrodd yn ei eiriau ei hun. Mae'n amser dod Full Circle.
Bydd Aled Jones ar lwyfan Theatr y Torch ar nos Fercher 27 Mawrth am 7.30pm. Tocynnau £30 / £50 VIP / £70 Cwrdd a Chyfarch. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.