ALEC LEWIS - THE PAINTED WORD
Yn ystod mis Mai, yr artist lleol Alec Lewis sy'n arddangos ei waith yn ein Horiel Joanna Field.
Bellach yn byw yn Ninbych-y-pysgod, mae Alec yn artist llawn amser. Mae ei greadigaethau wedi’u hysbrydoli gan farddoniaeth, geiriau cerddorol, mythau a chwedlau a byd natur.
Wrth siarad am ei waith, dywedodd Alec:
“Yn dod i’r amlwg o’r gronfa gyfoethog o fynegiant creadigol cantorion, arlunwyr a beirdd, daw telyneg neu ddyfyniad sy’n dal fy sylw ac yn ysbrydoli fy ngwaith; i ddal ar bapur ac ar gynfas elfen o'u cymeriad y mae'r geiriau hynny'n ei dwyn i gof.
"Mae fy mhaentiadau hefyd yn adlewyrchu hiraeth hir-oes am gyfnod mwy diniwed, efallai mwy gonest. Roedd tafarndai’n fannau i gwrdd a siarad, fel Gwesty’r Browns yn Nhalacharn, yn dyst i ego abarian cwrw Dylan Thomas ac Augustus John. Perfformiwyd cerddoriaeth mewn mannau mwy cartrefol, ac roedd yr hyn a welsoch ac a glywsoch yn datblygu o flaen eich llygaid a'ch clustiau a'r bobl hynny a oedd yno gyda chi. Nid oedd yn cael ei rannu gyda miloedd o wylwyr dienw ar-lein."
Yn ei waith celf mae Alec yn cydnabod ei ddylanwadau mawr drwy beintio’r bobl y mae eu geiriau a’u crefft wedi’i ysbrydoli, rhai y mae’n eu disgrifio fel ei arwyr cerddorol. Mae’r rhain yn cynnwys William Blake, Augustus John a Dylan Thomas o’r gorffennol ac yn fwy diweddar Bob Dylan, David Bowie, Elvis a Leonard Cohen.
Mae gwaith Alec yn gwneud defnydd o amrywiaeth o gyfryngau i greu celf sy’n cyfuno disgleirdeb gwaith y rhai y mae’n cael ei ysbrydoli ganddynt, gyda defnydd cyffredin a beunyddiol o’r deunyddiau y mae’n gweithio gyda nhw. Ydy chi'n chwilfrydig? Dewch draw i weld gwaith Alec yn Oriel Joanna Field Gallery o ddydd Mercher 4ydd o Fai. Mae'r arddangosfa ar gael i'w gweld pan fydd Theatr y Torch ar agor.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.