Adolygydd o Ddinbych y Pysgod yn Ymuno  Thim Adolygu Cymunedol y Torch

Brandon Williams, a anwyd a'i fagwyd yn Sir Benfro, yw’r diweddaraf i ymuno â’r grŵp o Adolygwyr Cymunedol yma yn Theatr Torch. Mae bellach yn edrych ymlaen at adolygu llawer mwy. Yn gyn-ddisgybl Ysgol Greenhill, astudiodd Brandon radd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa, ac mae bellach yn awdur ffrilans yn canolbwyntio ar newyddiaduraeth chwaraeon, pêl-droed yn bennaf.

Gan gymryd diddordeb mewn ffilmiau ar hyd ei oes, daeth ei ddiddordeb cyntaf mewn adolygiadau ffilm trwy YouTube, lle byddai beirniaid fel Mark Kermode yn rhannu eu barn ar y datganiadau diweddaraf.

“Adolygiadau Mark Kermode oedd rhai o’r rhai cyntaf yr wyf yn cofio eu gwylio’n rheolaidd ar YouTube, a’m harweiniodd i ddod o hyd i sianeli eraill sy’n adolygu ffilmiau a chyfryngau beirniadu. Wrth i mi weithio trwy fy ngradd, dechreuais gymryd mwy o ddiddordeb mewn gwneud hynny fy hun,” esboniodd Brandon.

Ar ôl treulio ei arddegau yn gwylio ffilmiau comedi a chlasuron yn bennaf, mae Brandon wedi cael ei ddenu'n bennaf at ffilmiau sy'n cyffwrdd â themâu cymdeithasol a gwleidyddol yn ddiweddar.

Ychwanegodd: “Mae rhai o’r ffefrynnau yr wyf wedi eu gwylio’n ddiweddar yn cynnwys Children of Men, Divine Intervention, a Do the Right Thing. Mae’r ffilmiau yma oll yn perthyn i gategori drama gymdeithasol mewn rhyw ffurf neu’i gilydd. Rwyf hefyd wedi ceisio gwella fy ngoddefgarwch tuag at ffilmiau arswyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar ôl osgoi’r genre am gymaint o amser!”

Mae Brandon yn edrych ymlaen at yr amrywiaeth eang o ffilmiau sydd ar gael yn y Torch dros y misoedd nesaf.

“Dw i’n gymharol newydd i hyn, felly rydw i’n mynd i ganolbwyntio ar wella fy llais beirniadol a’m safbwynt. Rwy’n gweld adolygu yn debyg iawn i ysgrifennu adroddiadau gêm bêl-droed. Mae gen i fel ‘adolygwr/modd adrodd’, lle rydw i efallai’n craffu ar bethau ychydig yn fwy nag y byddwn i pe bawn i’n gwylio’n hamddenol. Wedi dweud hynny, rwy’n meddwl bod pawb yn isymwybodol yn dadansoddi’r pethau rydyn ni’n eu gwylio i raddau. Yr her gydag adolygu yw gallu mynegi fy nheimladau mewn dull gonest ac ysgogol. Dw i’n edrych ‘mlaen at ddarganfod sut mae gwneud hyn yn fy ffordd fy hun a datblygu fel adolygydd gydag anogaeth y Torch,” meddai Brandon wrth ddod i glo.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.