ADOLYGIAD GOLWG CYNTAF - PRIVATE LIVES.

Mae’n woooooow gennyf i!!

Mae ‘na reswm da iawn dros y dywediad bod argraffiadau cyntaf yn cyfrif… ac mae hwn yn syfrdanol! Does dim gwell i’w gael yma - gwych, ffabiwlys, bendigedig. Yn pefrio gyda chwant byrlymog.

Yn barod, hyd yn oed ar yr adeg gynnar yma o’r ymarfer rhediad mewn paratoad ar gyfer y noson agoriadol, mae cynhyrchiad o Private Lives yn addo i fod yn gyflwyniad uchel-ael ac yn berfformiad llawn disgleirdeb ac yn barod am yr hyn sy'n haeddu i fod yn llwyddiant ysgubol.

Mae pob un o'r cymeriadau yn cael ei arsylwi a'i bortreadu'n drawiadol. Maent wedi eu castio’n dda iawn. Roedd pob un ohonyn nhw wedi gwneud i mi chwerthin, cymaint oedd cyflymdra a chyflwyniad y ffraetheb a’r llinellau arabus. Yn bendant roedd tipyn o “chwerthin hollti bol”, a nifer o eiliadau doniol tu hwnt.

Pob credyd dyledus yma, gan fod y ddrama hon yn cynnwys peth comig dywyll ac agweddau anodd, yr wyf yn hyderus y caiff y wybodaeth ei thrin yn union ac yn gyfrifol gan y cast a ddewiswyd mor dda. Mae'r cynhwysion hyn yn ychwanegu at berthnasedd Private Lives, sylw a rennir gyda'm cyd-adolygydd, Liam Dearden.

Mae cynlluniau’r set a’r gwisgoedd yn hynod o hudolus a soffistigedig, yn arbennig o atgofus o’r cyfnod y gosodwyd y ddrama ynddo. Mae hwn yn wledd arbennig, oherwydd y ffasiwn odidog ac arddulliau dylunio mewnol a phensaernïaeth y cyfnod.

Rwyf wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddyfodiad Private Lives at y Torch, erioed ers gweld “Mad about the Boy” bywgraffiad ffilm am Noel Coward yng Ngorffennaf. Nawr, dw i mor gyffrous ag erioed ac mae hyn ar ôl cael blâs, o samplu’r hors d'oeuvres. Ni allaf aros i brofi’r prif gwrs a’r pwdin!

Rheda Private Lives o 4ydd Hydref – 21ain Hydref ac mae tocynnau ar gael yn https://www.torchtheatre.co.uk/private-lives/ ac mae aelodau yn cael 25% oddi ar hyd at bedwar tocyn.

Mae Mad About the Boy – The Noel Coward Story yn dychwelyd i sgrin fawr y Torch ar 21ain Medi https://www.torchtheatre.co.uk/mad-about-the-boy-the-no%C3%ABl-coward-story-12/

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.