Adolygiad Beauty & The Beast - o ie ydyw!

Oooooh ydy, mae ..... wir yn biwti! 

Oooooh nac ydy, dyw hi ddim yn ..…  fwystfilaidd! 

Wel, dim ond yn fwystfilaidd ble mae’n cyfrif – pan ddaw hi i’r ffabiwlys, does dim angen edrych ymhellach na’r Beast isel ei ysbryd sy’n cael ei chwarae gan Samuel Freeman. Mae’n "Beastie Boy " go iawn!

Mae’r hyfryd Belle, sy’n cael ei chwarae gan Leilah Hughes, yn sicr yn barod i swyno a’n trawsnewid.

Mae ‘na harddwch di-ri i'w weld ynghyd, cynhyrchiad ysblennydd sy'n addo dal y llygad gyda setiau, cefnlenni a golygfeydd llawn dychymyg. 

Mae tymor y pantomeim wir wedi ein cyrraedd ... a dyna i chi stori arbennig i’w harddangos. Mae ganddi'r holl hanfodion i wefreiddio a difyrru.

Yn gyntaf oll, mae Beauty and Beast yn chwedl mor boblogaidd gyda digon o wersi oesol am y da a’r drwg, gyda’r da yn sicr yn fuddugoliaethus dros y drwg yn y pendraw, gyda diffyg soffistigeiddrwydd a’r chwarae geiriau clyfar o fwy o hiwmor oedolion.

Mae Chelsy Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch, wedi mynd dros ben llestri gan wneud pob ymdrech gyda'r sgript hon. Mae'n orlawn o'r holl elfennau traddodiadol.

​Mae'r sioe yn argoeli'r holl draddodiadau panto gwych wedi'u hennill a'u gweini gyda llond bol o ddifyrrwch a rhoddion hael o liw a golygfeydd.

Mae digonedd o hiwmor slapstic, hwyl chwerthinllyd a chymeriadau mwy na bywyd, felly "gwyliwch, mae e tu cefn i chi!"

Mae’r Good Fairy Gertrude (Ceri Mears) a’r Evil Fairy Shadowmist (Ceri Ashe) yn ysbrydoledig. Maent yn cael eu cefnogi’n alluog gan Crystal the Butler (Amelia Ryan) a Thad Belle (Lloyd Grayshon).

Mae yna bob cyfle i ymuno â'r anhrefn a chael amser go iawn yn ‘sgrechian, gan floeddio’r ymatebion a "rholio yn yr eiliau"!

Mae’r cast o gymeriadau yn ddatguddiad, yn amrywiaeth gyfoethog i ychwanegu at y cyffro, y cyflymder a’r digrifwch. Mae’r darnau cerddorol yn ddigonol, gan sicrhau awyrgylch pantomeim go iawn.

Heb os, mae gwisgoedd pantomeim yn rhan arbennig iawn o’r sioe … ac nid yw’r rhain yn eithriad. Disgwylir datgeliad mawr y wisg sydd wedi’i dylunio a’i dewis yn arbennig i’w gwisgo gan Belle o ganlyniad i gystadleuaeth yr ysgolion. Mae'r gwisgoedd yn addo cyfuniad o ddyluniadau traddodiadol hynod bendigedig a modern gyda thro cyfoes.

Byddwch yn barod i fwio a hisian ar y rheiny nad ydynt yn rhuthro i ymuno á’r cynnwrf.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.