ABRACADABRA YN THEATR Y TORCH
Paratowch eich hunain i gael eich syfrdanu’n llwyr wrth i’r dewinwr byd-enwog, gwobrwyedig a seren y West-End Ben Hart ymweld â Theatr y Torch yn ei sioe fwyaf personol hyd yma. Fis Hydref eleni, yn ei sioe o’r enw Jadoo, bydd Hart yn taflu ei lithriad llaw arferol a’i arddangosfeydd syfrdanol o ryfeddod, cyfriniaeth, pŵer allsynhwyraidd, a chwilio am y gwir…
Wedi’i dynnu o’i brofiad o deithio India i ddarganfod hud colledig, go iawn, ac wedi’i wreiddio yn nhreftadaeth ei deulu, mae’r sioe drawiadol hon yn gyfoethog mewn lliw, angerdd heintus, a hiwmor drygionus.
Disgrifir y sioe gan The Scotsman, fel “rhagoriaeth dechnegol a swyn anorchfygol...yn gythreulig o glyfar" ac yn “syfrdanol. Mae ei law yn rhyfeddol” gan Time Out. Mae'n sioe sy'n gweld bod gan Ben Hart enw da heb ei ail am wneud gweithiau rhyfeddol o hud a rhaid i’w ei weld yma ar lwyfan y Torch.
Nid dewinwr cyffredin mo Ben. Mae’n aelod o The Inner Magic Circle (y safle uchaf yn The Magic Circle) ac wedi cydweithio a dylunio hud ar gyfer yr RSC, Penn and Teller, Mission Impossible 7, a Mischief Theatre i enwi dim ond rhai. Gwelwyd ei waith ar y teledu gan gynnwys ei gyfresi ei hun i’r BBC ac ar Britain’s Got Talent (cyrhaeddodd rownd derfynol), AGT The Champions, The One Show, a channoedd o ymddangosiadau teledu eraill ar draws y byd.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i weld storïwr hud mwyaf blaenllaw’r byd yn y sioe gwbl newydd hon, yma yn Theatr y Torch.
Bydd Ben Hart: Jadoo yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Sul 29 Hydref am 7.30pm. Tocynnau’n £17.50 | £15.00 CONS: £7.30. Mae’r sioe yn addas ar gyfer y rheiny 12+. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.