MAE CROESO CYNNES THEATR Y TORCH YN AROS AMDANOCH YN SIOE SIR BENFRO

Wrth i bobl ar hyd a lled y wlad fod yn brysur yn paratoi eu hanifeiliaid ar gyfer Sioe Sir Benfro flynyddol a gynhelir ar ddydd Mercher 16 a dydd Iau 17 Awst, mae Theatr y Torch hefyd yn paratoi i gamu y tu allan i ddrysau ei Theatr a mynychu'r digwyddiad poblogaidd.

O ymweliadau blynyddol â Chastell Penfro a Choleg Sir Benfro a gyda Sinema Machlud Haul eleni ar ei hanterth yn ymweld â lleoliadau ar draws y sir a thu hwnt gyda’ch hoff ffilmiau, mae Theatr y Torch wrth ei bodd yn mynd allan i gwrdd â phobl newydd ac i arddangos yr hyn sy’n digwydd yn y theatr.

Ar gyfer 2023, bydd Team Torch yn ymuno â Phorthladd Aberdaugleddau ym mhabell Marchnad Glannau Aberdaugleddau ac fel yr eglura Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch, mae’n amser cyffrous i bawb.

“Mae Theatr y Torch yn gyffrous i fod yn ymuno â Phorthladd Aberdaugleddau yn Sioe Sir Benfro eleni. Mae ein tîm wrth eu bodd yn mynd allan ar draws y sir, yn cysylltu â gwahanol bobl ac yn lledaenu’r gair am yr holl weithgarwch gwych sy’n digwydd yn y Torch – o’n dramâu theatrig o safon uchel, i deyrngedau gwefreiddiol, ochr yn ochr â’n gwaith ieuenctid a chymunedol hanfodol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i ddweud helo a chael gwybod sut y gallwch chi gymryd rhan.”

Ychwanegodd Uwch Reolwr Marchnata newydd Theatr y Torch, Charlotte Spencer:

“Bydd gennym nwyddau i’w prynu gan gynnwys poteli dŵr a bagiau wedi’u brandio yn ogystal â hen raglenni o sioeau blaenorol a lolipops am ddim. Gallwch hefyd brynu tocynnau ar gyfer ein cynyrchiadau sydd ar ddod. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi i gyd felly dewch draw i’n stondin rhwng 9am a 6pm ar y ddau ddiwrnod.”

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.