'NOSON YN YR OPERA'

Fel rhan o’u taith gwanwyn, bydd Opera Canolbarth Cymru yn dychwelyd i Theatr y Torch ar nos Sadwrn 26 Mawrth, gyda La bohème gan Puccini; stori ddi-amser o gariad, colled a’r dyhead am rai o ariâu mwyaf enwog opera.

Mae’n Noswyl y Nadolig, uwch strydoedd Paris mae cnoc ar y drws yn ddechrau i stori garu ddiamser y bardd Rodolfo a’i gymdoges, Mimi. Teimla eu carwriaeth ledrithiol fel gwyrth y Nadolig, ond mae ias oer y gaeaf yn drech na gwres eu nwyd – mae Mimi yn ddifrifol wael, ac ni all Rodolfo na’i gyd-fohemiaid fforddio’r help sydd ei angen arni. O groglofft myfyriwr i strydoedd bywiog Montmartre, mae gorchestwaith Puccini’n dathlu grym cariad a chyfeillgarwch.

Mae’r opera’n cyfleu awyrgylch grudiog Paris yn yr 1840au yn berffaith. Trwy straeon cydgysylltiedig ei bedwar prif gymeriad (bardd, a gwniadwraig, arlunydd a cherddor), mae'n dal angerdd ac afradlonedd y bohemiaid ifanc. Ac fel y cyfnewid o lythyrau caru, gwnaed y rhan fwyaf o benderfyniadau am yr opera (yn araf!) trwy lythyrau a anfonwyd yn ôl ac ymlaen rhwng Puccini a'i gyhoeddwr, Ricordi, a'r libretwyr Luigi Illica a Giuseppe Giacosa.

La bohème sy’n dod â thymor Puccini ym Mharis gan Opera Canolbarth Cymru i ben, un a oedwyd am flwyddyn gan theatrau oherwydd Covid. Roedd taith SmallStages yn hydref 2021 yn II dabarro Puccini – y cyntaf o 3 opera Il trittico (‘The Triptych’). Fe wnaeth cyfres o bortreadau bychan Henri Murger ym 1851 ddarparu’r sail ar gyfer geiriau cerdd La bohème. Fe wnaeth Scènes de la vie de bohème bortreadu bywydau’r bohemiaid ifanc yn Ardal Lladin Paris.

Caiff y bohemiaid ifanc yng ngynhyrchiad Opera Canolbarth Cymru eu darlunio gan gast serol a chyfoeth o dalent Gymreig. Caiff rôl Rodolfo ei ganu gan y Tenor o Gymru, Robyn Lyn Evans, a fagwyd ym Mhont-rhyd-y-groes, Ceredigion, ond sydd bellach yn byw ym Machynlleth. Mae’n falch iawn o fod yn ailadrodd un o’i hoff rannau, y mae eisoes wedi’i chanu ar gyfer y Prosiect Opera a hefyd Gŵyl Opera Longborough.

Bydd La bohème yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, ar ddydd Sadwrn 26 Mawrth am 7pm. Tocynnau’n £22.50, £20.50 consesiynau a £9 ar gyfer y rheiny o dan 26 mlwydd oed.  Mae modd archebu tocynnau trwy ffonio Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu trwy glicio yma.   

Mae’r sioe hon yn rhan o ymgyrch Caru Eich Theatr Leol y Loteri Genedlaethol ac UK Theatre, lle yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill pan fyddwch yn prynu tocyn ar gyfer sioe sy’n cymryd rhan, byddwch yn cael tocyn arall am ddim trwy garedigrwydd y Loteri Genedlaethol. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.