DECHREUAD CERDDOROL AR GYFER 2022 YN THEATR Y TORCH, GYDA DYCHWELIAD O LEISIAU'R TORCH!
Yn dilyn ychydig o fisoedd prysur ers i Theatr y Torch ail agor ei drysau ym mis Medi, mae'r tîm yn gyffrous iawn cael cyhoeddi bod eu côr talentog sef ‘Lleisiau'r Torch’ yn dychwelyd am ymarferion wyneb i wyneb o ddydd Iau, Ionawr 6ed.
Fel côr cymunedol mwyaf cynhwysol Sir Benfro ’, nid oes angen clyweliad arnoch i ymuno â’r grŵp, ac mae’r gerddoriaeth yn ymdrin ag ystod o arddulliau. Gyda thystiolaeth gynyddol yn dangos bod canu yn rhyddhau endorffinau, serotonin a dopamin - y cemegau 'hapus' sy'n rhoi hwb i'ch hwyliau ac yn gwneud i chi deimlo'n dda amdanoch chi'ch hun, gallai fod y 'rhywbeth' hennw rydych chi wedi bod yn edrych amdano i ddechrau'r Flwyddyn Newydd!
Ar ôl cadw’r côr mewn llais â sesiynau rhithwir ers dechrau'r cyfnod clo, dywedodd arweinydd y côr, Angharad Sanders, “Rwy’n hynod gyffrous i fod yn ôl yn yr ystafell lle mae’r gerddoriaeth yn digwydd yn 2022. Ar ôl bod yn gweithio o bell cyhyd, hoffwn ddiolch i bawb am eu geiriau caredig a'u cefnogaeth yn ystod ein digwyddiadau Torch Rhithwir wedi'u ffrydio, ond gwireddu breuddwyd fydd hi i fod yn ôl yn gweithio gyda'n haelodau gwreiddiol a rhai lleisiau newydd cyffrous. Mae canu cymunedol bob amser wedi bod yn rhywbeth yr wyf wedi bod yn angerddol amdano, gan ganiatáu rhyddid a mynegiant mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.
Mae ein canu ar ddydd Iau yn gyfle i gwrdd â phobl gyffelyb, dysgu rhai sgiliau a thechnegau lleisiol i ddatblygu'ch canu a chael llawer o chwerthin a hwyl. Fel athro canu technegol, rwy'n ceisio ymgorffori techneg lleisiol llinynnol ym mhob sesiwn, gan sicrhau iechyd lleisiol cryf, dibynadwy ac fel cerddor proffesiynol, rwy'n angerddol i gadw cerddoriaeth yn fyw. Yn hynny o beth, mae ein holl ymarferion a pherfformiadau yng nghwmni piano a band byw, lle bo hynny'n bosibl sy'n ychwanegu at y profiad! Dyma i 2022 gwych, cerddorol a dychweliad i Leisiau'r Torch.”
Cynhelir y sesiynau yn ystod y tymor, bob dydd Iau rhwng 6-7.30pm yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau a chodir tâl aelodaeth y tymor o £50.
Os ydych chi'n edrych ymlaen at roi cynnig ar rywbeth newydd yn 2022, a bod gennych ddiddordeb mewn ymuno yna e-bostiwch angharad_sanders@hotmail.com.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.