THOMAS PAGE DANCES - A MOMENT
“I used to be interested in clothes, clubs, buying records. And men. Now my life... what life?” – Moment of Grace, Bren Gosling.
Ddydd Iau 7 Gorffennaf, bydd Theatr y Torch yn croesawu cynhyrchiad newydd arloesol gan Thomas Page Dances, o'r enw A Moment.
Mae dau berfformiwr yn archwilio beth oedd hi fel i fod yn hoyw yn yr 80au pan oedd y DU yn llawn ofn ac anwybodaeth, mewn ymateb i ‘Moment of Grace’ gan Bren Gosling. Mae’n berfformiad gan ddeuawd agos-atoch sy’n symud trwy themâu o baranoia, agosatrwydd a gormes gan ddefnyddio cyfrwng dawns gyfoes.
Dawnsia A Moment trwy gysylltiadau dynol clos i ffrwydradau o gorfforoldeb wedi’u plethu ynghyd yn arddull unigryw Thomas Page Dance o ystumio, gwyrdroad, a symudiad gweledol sylfaenol, gyda sgôr cywrain gan y cyfansoddwr Robert Singer.
Mae’r darn yn cyfateb i’r 80au a’r presennol, gan fyfyrio ar yr hyn sydd wedi newid a’r effaith barhaol y mae’r cyfnod hwnnw wedi’i gael ar y gymuned LGBTQIA+. Mae’r gwaith hefyd yn diolch i’r rhai a’i gwnaeth yn bosibl dweud, “Nid dedfryd marwolaeth yw HIV bellach” ac mae’n sicrhau nad yw rhan mor bwysig o hanes yn cael ei hanghofio.
Mae Thomas Page Dances yn cyflwyno’r ddeuawd agos-atoch hon, gyda’r gobaith o danio ton newydd o sgyrsiau am HIV/AIDS gan helpu i godi ymwybyddiaeth tra’n creu archif corfforol o ran mor hanfodol o’n hanes. Mae’r perfformiad yn symud trwy ymadroddion ystumiol a phartneru cywrain i greu gwahanol benodau a pherthnasoedd gan greu profiad hynod weledol i’r gynulleidfa.
Mae tocynnau’n £10.00 neu’n £8.50 ar gyfer consesiwn. Mae tocynnau ar werth o’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ar-lein yma
Mae'r perfformiad yn addas ar gyfer rhai 14+ oed.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.