Ychwanegiad Maint Anferthol i Hwyl yr ŵyl
Fe wnaeth ein hadolygwr rheolaidd Liam Dearden fynychu ein darlleniad cyntaf o Jack and the Beanstalk. Dyma beth oedd ganddo i'w ddweud ...
Os ydych chi’n chwilio am ychwanegiad maint anferthol i hwyl yr ŵyl y gwyliau Nadolig hwn, yna nid oes angen edrych ymhellach na phantomeim Nadolig Theatr Torch sef, “Jack and the Beanstalk” sydd wedi ei ysgrifennu a’i gyfarwyddo’n wych gan y Cyfarwyddwr Artistig Chelsey Gillard. Mae’r cynhyrchiad hyfryd hwn n cynnig antur gynhyrfus ar raddfa fawr i gynulleidfaoedd a fydd yn eich cael yn chwerthin hollti bol go iawn -o’r ysgewyll lleiaf i'r tatws mwyaf.
Cefais bleser pur o fynd i ddarlleniad/ymarfer cyntaf y stori gymhellol hon, a gadewch imi ddweud wrthych, roedd y cyffro yn amlwg! Mae’r cast, sy’n frith o dalent lleol, yn cynnwys Samuel Freeman fel y direidus Terrence Fleshcreep, y Fonesig Titania Trott fythgofiadwy a bortreadir gan Lloyd Grayshon, a’r cyfrwys Agatha Fleshcreep a ddaeth yn fyw gan Freya Dare. Nid yw’r tri yn ddieithriaid i lwyfan y Torch, ar ôl disgleirio’n ddisglair ym mhanto Beauty and the Beast, a dorrodd record y llynedd.
Yn ychwanegu at y gymysgedd hyfryd mae Pat, y fuwch, sy’n sicr wedi dwyn y sioe, ac sy’n cael ei chwarae gyda chalon gan y dawnus Carri Munn. Mae Gareth Elis wir yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Torch fel yr arwr dewr, Jack Trott, sy'n byw ar Fferm Trott’s Tatter ochr yn ochr â'i fam a'u buwch annwyl, ac Elena Carys-Thomas sy'n chwarae rhan Fairy Gabby Greenfingers. Paratowch ar gyfer cynhaeaf toreithiog o lysiau a chwarae ar eiriau mŵ-tastig! Mae'r gynulleidfa yn barod ar gyfer antur wedi'i hysbrydoli gan Sir Benfro, gyda chyfeiriadau dirdynnol at ddirnodau lleol o Arwerthiant Cist Car Caeriw i Gastle Pill!
Yr hyn a'm trawodd yn ystod y darlleniad — ac sy’n cyd-fynd â barn fy nghyd-adolygydd Val Ruloff— yw bod y cynhyrchiad hwn yn argoeli i fod yn brofiad an-ffa-radigaethus. Mae'r daith yn uchel uwchben y cymylau i mewn i gastell y Cawr yn mynd â'r profiad i uchelfannau newydd.
Mae’r gwisgoedd llachar, o Jack i’r Fonesig Trott ffasiynol, yn asio cynhesrwydd y stori dylwyth teg â gwefr antur. Mae Kevin Jenkins yn addo profiad egnïol yn Cloudland, gyda golygfeydd llawn enfys, pefriiadau, digon o ffa a chymeriadau llond eu cot. Mae’n addo i fod yn berfformiad o adloniant pur. Wedi’u hategu gan gerddoriaeth wreiddiol James Williams, nid oedd y perfformiadau yn ystod y sesiwn ddarllen yn ddim llai na rhagorol, wrth i bob actor ddod i adnabod ei gymeriad gyda swyn unigryw a’m gadawodd i ddymuno mwy.
Mae sgript Chelsey Gillard wir yn hyfryd, yn cyfuno comedi, themâu amgylcheddol, ac arwriaeth deuluol yn feistrolgar, gan ddwyn i gof chwerthin, dagrau a lloniannau. Mae’n brofiad euraid yn llawn chwerthin iach, oll wedi ei selio mewn awyrgylch hudolus a byrlymog.
Felly, peidiwch ag oedi - dringwch ar fwrdd y coesyn ffa a dewch â'ch teulu bach a mawr am dro am antur anferthol! Bydd yr antur panto yn eich gadael â gwen ar eich wynebau a’ch calonnau’n llawn cred mewn hud, ymhell ar ôl i’r llen ddisgyn!
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.