A FEDRWCH CHI WELD WYNEB CYFARWYDD YN Y PANTO NADOLIGAIDD?
Gyda’r ymarferion ar gyfer pantomeim Nadoligaidd Theatr y Torch o Beauty and the Beast yn eu hanterth, bydd aelodau’r gynulleidfa eleni’n gallu gweld ambell wyneb lleol ar y llwyfan. Mae tîm Theatr y Torch wrth eu bodd bod y rhan fwyaf o’i hactorion yn dod o Sir Benfro, y cwestiwn yw a fyddwch chi’n eu hadnabod yn eu gwisgoedd bendigedig?
Chwaraeir y Beast gan frodor o Sir Benfro, Samuel Freeman. Mynychodd yr actor a aned yn Aberdaugleddau Theatr Ieuenctid y Torch pan oedd yn blentyn ac fe ymddangosodd yn ddiweddar mewn sioe deuluol o Jabberwocky and Other Nonsense yn Theatr y Torch, a gynhyrchwyd gan Calf to Cow Productions.
Dywedodd Samuel: “Mae gweithio gydag actorion lleol nid yn unig o fudd mawr i’r perfformwyr, ond mae’r Torch yn creu gwaith sy’n cael ei gefnogi a’i feithrin gan bobl o’r union gymuned y maent yn ei rannu â nhw. Mae pawb ar eu hennill ac yn rhywbeth rwy’n ei werthfawrogi’n fawr!”
Mae Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch Chelsey Gillard yn awyddus iawn i gefnogi pobl leol ym mhob agwedd o’i gwaith theatr ac nid yw’r pantomeim o Beauty and the Beast yn eithriad.
“Fel un o’r prif theatrau cynhyrchu yng Nghymru mae’n bwysig i ni sicrhau ein bod yn cyflogi actorion lleol ac artistiaid llawrydd. Mae’n wych pan fydd ein cynulleidfaoedd ifanc yn gallu gweld a chlywed actorion sy’n swnio fel nhw ar y llwyfan, maen nhw’n gallu uniaethu mwy â’r cymeriad ac efallai hyd yn oed ddychmygu eu hunain ar y llwyfan rhyw ddydd.”
Mae bod yn actor lleol yn fantais enfawr pan ddaw i’r pantomeim eleni.
Ychwanegodd Chelsey: “Mae gan ein panto, yn arbennig, lawer o gyfeiriadau lleol, felly mae angen i’r actorion wybod am beth maen nhw’n siarad pan maen nhw’n dweud bod y Bwystfil yn byw yng Nghastell Penfro neu mai Aberdaugleddau yw’r lle i fod!”
A wnewch chi adnabod yr actor Ceri Ashe a aned yn Sir Benfro fel y Shadowmist? Efallai y byddwch yn meddwl bod Lloyd Grayshon o Hwlffordd fel y Tad yn wyneb cyfarwydd, neu beth am Freya Dare, yr is-astudiwr ar gyfer rolau Belle, Evil Fairy a Butler, sydd â chwmni yn Sir Benfro?
“Mae’n anhygoel, mae’r rhan fwyaf o fy ngyrfa actio wedi bod ar lwyfan Theatr y Torch ac mae wedi chwarae rhan mawr iawn yn fy mywyd,” meddai Lloyd.
“Mae’r Torch yn dŷ cynhyrchu aruthrol, mawreddog yma yn Sir Benfro ac mae wedi fy ngalluogi i ddilyn fy ngyrfa actio yn ogystal â magu teulu yn y sir rwy’n ei charu. Rydyn ni mor bell i’r gorllewin yma ac mae’n hawdd i actorion gael eu hanwybyddu ond mae’r Torch wedi rhoi cyfleoedd diddiwedd i actorion fel y minnau.”
Bydd Beauty and the Beast yn gwneud ei ffordd hudolus i lwyfan Theatr y Torch o nos Wener 15 Rhagfyr i ddydd Sul 31 Rhagfyr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol - Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr am 2pm a Pherfformiad Dehongli BSL - Dydd Mawrth 19 Rhagfyr am 6pm.
Sylwer: Mae Aelodau'r Torch yn cael 25% oddi ar hyd at bedwar tocyn a brynwyd ar gyfer Beauty and the Beast.
Pris tocynnau yw £22.50 | £19.00 CONS | £70.00 TEULU. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.