3 Drama Gymraeg

Fis Ebrill eleni, mae Theatr Torch yn croesawu’r actorion Siôn Emyr, Mali O’Donnell, Mark Henry-Davies, Elena Carys-Thomas a Gareth John Bale i’w llwyfan ar gyfer tair drama Gymraeg. Mae’r dramâu yn ffrwyth llafur ‘Sgen ti Syniad’, llwyfan i dalentau hen a newydd yma yng Nghymru ac mae’n rhaid eu gweld.

Ar ddydd Mercher 9 Ebrill, gall aelodau’r gynulleidfa weld Wisgi gan Carwyn Blayney, Dishgled ‘da Del gan Cai Llewelyn Evans a 99’er gan Ceri Ashe a aned yn Sir Benfro (wyneb cyfarwydd yma yn Theatr Torch ar ôl chwarae rhan yr Evil Fairy Shadowmist ym mhantomeim Beauty and the Beast yn 2023).

Mae Theatr y Torch hefyd yn gyffrous i groesawu Gareth John Bale i’w llwyfan, wyneb Grav, y sioe un dyn hynod a oedd yn archwilio bywyd ac oes un o feibion ​​anwylaf Cymru, Ray Gravell. Nid yn unig y bydd Gareth yn actio yn un o’r dramâu, mae hefyd yn cyfarwyddo un ohonyn nhw.

Ers gorffen gyda’i gariad, Wini, mae Gwion yn gweld nad yw’n gallu fforddio byw ar ben ei hun. Diolch byth, mae ei hen ffrind, Iwan, angen gwely. Ond yw pethau wir ar ben rhwng Gwion a Wini? Drama ysgafn am dri pherson hunanol yn ymladd dros lety yn ystod yr argyfwng costau byw. 

Ail ddrama’r oson yw Dishgled ‘da Del gan Cai Llewelyn Evans, a aeth i rownd derfynol So You Think You’re Funny, ac a ddaeth yn ail yng Ngwobr Max Turner 2023. Mae’r shock jock carismatig Del Tozer yn cyffroi ei gwrandawyr selog ar TARAN FM yn ddyddiol gyda’i sylwadau milain ar fywyd modern. Ond pan ddaw gwestai ifanc â phersbectif amgen ar y byd a phechodau’r gorffennol i mewn i’r stiwdio, a oes perygl mai hanes Del ei hun fydd yn cael ei roi o dan y chwyddwydr? 

Ac yn olaf, yr hirddisgwyliedig 99’er by Ceri Ashe. Pan mae tad Elen yn marw yn sydyn, mae'n neidio ar y trên nesaf o Lundain nôl i Sir Benfro, ac yna'n ffeindio’i hun yn gweithio yn fan hufen iâ’r teulu: "Pan ti’n ifanc a meddwl am bod yn thirties ti, ti’n meddwl, wow, byddai mor sorted erbyn ‘nny - prynu tŷ, job teidi, dim overdraft….blinco - a bam it’s your thirties a ‘sdim lot wedi newid!” 


Bydd y perfformiadau Cymraeg yn teithio o amgylch Cymru yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill a bydd manylion Saesneg ar gael i aelodau'r gynulleidfa.

Bydd 3Drama ar lwyfan Theatr Torch nos Fercher 9 Ebrill am 7.30pm. Tocynnau yn £15. Canllaw oed 14+ defnydd o iaith gref. Ewch i'r wefan am fanylion pellach www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.