10 FFILM ANNIBYNNOL YN Y TORCH, DIOLCH I FFILM CYMRU
Mae Theatr Torch, Aberdaugleddau yn un o wyth lleoliad ledled Cymru sydd wedi ennill Cronfa Arddangoswyr Ffilm gan Ffilm Cymru Wales. Bydd y Torch yn cyflwyno gweithgaredd Mannau Cynnes fel rhan o’i rhaglen sinema yn dangos 10 ffilm annibynnol rhwng 21 Chwefror a 25 Ebrill a bydd te a choffi am ddim, ochr yn ochr â thrafodaeth ar ôl y ffilm.
Gydag arian y Loteri Genedlaethol wedi’i ddirprwyo gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Ffilm Cymru Wales yn darparu cymorth i arddangoswyr ffilm annibynnol i ddifyrru ac ysbrydoli pobl ledled y wlad gan roi mwy o ddewis o ffilmiau. Fel rhan o ymrwymiad y sefydliad i arloesi, canolbwyntio ar gynhwysiant a chynaliadwyedd, mae eu Cronfa Arddangoswyr Ffilm yn annog sinemâu a gwyliau ffilm i ddatblygu eu gwaith mewn sector esblygol, a chysylltu eu cymunedau lleol trwy sinema.
Meddai Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch: “Rydym yn edrych ymlaen at agor ein drysau fel rhan o gynllun Mannau Cynnes o fis Chwefror, a chynnig ffilmiau pris gostyngol dros fisoedd y gaeaf. Bydd 10 dangosiad wythnosol o ffilmiau annibynnol wedi’u curadu gan banel o aelodau’r gynulleidfa yn dod â phobl ynghyd i sinema’r Torch. Bydd te a choffi am ddim a thrafodaethau ar ôl y ffilmiau.”
Mae'r ffilmiau sydd ar gael, gyda thocynnau yn £3 yr un, yn cynnwys: Lost in Translation (2003) – ble mae seren ffilm sy'n pylu yn syrthio mewn cariad â menyw ifanc unig yn Tokyo; I, Daniel Blake (2016) – Wedi iddo o oroesi trawiad ar y galon, rhaid i saer coed 59 oed frwydro yn erbyn lluoedd biwrocrataidd i dderbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth; Chuck, Chuck Baby (2023) - mae Helen yn byw gyda’i chyn-ŵr, ei gariad 20 oed, eu babi newydd, a’i fam sy’n marw, Gwen. Mae ei bywyd yn lladdfa, ac fel pob menyw arall y mae'n gweithio gyda hi yn y ffatri ieir leol, mae wedi treulio ei bywyd wrth y cloc a Hedd Wyn (1992) yn serennu Huw Garmon, Catrin Fychan a Ceri Cunnington. Mae bardd ifanc sy'n byw yng nghefn gwlad gogledd Cymru yn cystadlu am wobr a fawr chwenychir Barddoniaeth Gymraeg - sef cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, traddodiad sy'n dyddio'n ôl gan mlynedd. Cyn cyhoeddi'r enillydd mae Hedd Wyn yn cael ei anfon i ymladd gyda'r Saeson yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r ffilmiau arall yn cynnwys: Parasite (2019); The Boy and The Heron (2023); Hard Truths (2024); Bird (2024); On Becoming a Guinea Fowl (2024) a The Stimming Pool (2024) - ffilm unigryw sy'n archwilio byd sydd wedi'i llunio gan safbwyntiau niwroamrywiol. Ewch i wefan Theatr Torch am ragor o fanylion www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar: (01646) 695267.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.