DOSBARTHIADAU DAWNS

Mae Theatr y Torch yn cynnig gweithdai wythnosol o symudiad & cherddoriaeth, mewn cydweithrediad gydag Arts Care Gofal Celf a Pembrokeshire People First, gyda gweithdai dawns yn y categoriau canlynol: 

My Moves – Dosbarthiadau Dawns i Oedolion

Gweithdy wythnosol awr o hyd sy'n llawn hwyl yw My Moves wedi ei seilio'n benodol ar gyfer oedolion gydag anawsterau dysgu. Mewn cydweithrediad gydag Arts Care Gofal Celf a Pembrokeshire People First.

Pob dydd Gwener yn Y Gyffordd, Theatr y Torch, 10:30am – 11:30am, mynediad £3.00

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda'n swyddfa docynnau ar 01646 695267

Golden Groovers – Dawnsio er mwyn Iechyd

Gweithdy dawns awr o hyd i'r rheiny dros 50 oed yw Golden Grooves – yn addas ar gyfer holl alluoedd a lefelau egni. Mewn cydweithrediad gydag Arts Care Gofal Celf.

Nid oes angen profiad dawns flaenorol - gall yr holl ddawnsiau eu haddasu ar gyfer holl alluoedd a lefelau egni ac mae modd eistedd.

Pob dydd Gwener yn y Gyffordd, Theatr y Torch, 11:45am – 1:15pm, mynediad £3.00

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gydag ashley@acgc.co.uk / Teleffon: 01267 243815

GŴYL D-FESTIVAL

Yn 2016, Blwyddyn Dawns Theatr y Torch, fe wnaeth Arts Care Gofal Celf a Theatr y Torch ddod ynghyd i gyflwyno seithfed Ŵyl flynyddol D-Festival – sef penwythnos o ddathliad yn Sir Benfro.

Roedd Gŵyl D Festival 2017 yn fwy ac yn well nag erioed o'r blaen, yn cynnig rhaglen lawn dop cyffrous o ddawns dros ddeuddydd: Gweithdai, DJeio byw drwy gydol y prynhawn, gweithdai graffiti a mwy, gyda pherfformiadau byw gan bobl broffesiynol a dawnswyr amatur a gweithdai ar draws nifer o ddisgyblaethau dawns.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.