CHWANT GWIRFODDOLI?

Mae Theatr y Torch bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i fod yn rhan o Dîm Torch yn unig theatr broffesiynol a chanolfan y celfyddydau yn Sir Benfro.

Gwirfoddolwyr Blaen Tŷ 

A ydych yn 16 neu'n fwy ac weithio gydag un o'r theatrau mwyaf blaenllaw yng Nghymru? 

Pam na wnewch chi wirfoddoli am fod yn rhan o Dîm Tŷ Blaen y Torch? 

Yn ogystal â darparu croeso cynnes a gwirio tocynnau, gwerthu rhaglenni, losiynau a hufen iâ i filoedd o bobl wnaeth ddod drwy y drysau'n flynyddol, mae Gwirfoddolwyr hefyd yn derbyn ystod o fuddiannau eraill di-dâl yn cynnwys tocynnau pris gostyngiad ar gyfer y nifer o ddigwyddiadau sy'n digwydd yno drwy gydol y flwyddyn.

 “Mae wir yn gyfle cyffrous i bobl sydd am weithio mewn amgylchedd byd theatr ac i chwarae eu rhan fel petai. Mae'n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd ac i weithio mewn amgylchedd unigryw a gwefreiddiol fel sydd gan ganolfan celfyddydau fel y Torch i'w chynnig.”

Marcus Lewis, Rheolwr Blaen Tŷ 

Dewch yn wirfoddolwr, gwnewch wahaniaeth. Mae'n ffordd arbennig o wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, bod yn rhan o'r gymuned leol, cwrdd ag ystod amrywiol o bobl a gwylio sioeau byw a ffilmiau am DDIM!

Am fwy o wybodaeth am ddod yn wirfoddolwr Blaen Tŷ , anfonwch e-bost at: marcus@torchtheatre.co.uk neu rhowch alwad ffôn i ni ar 01646 694192.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.