THEATR Y TORCH

ADDYSG

Mae Theatr y Torch yn rhoi cefnogaeth i ysgolion, colegau, ac addysg gartref ar draws Sir Benfro a Gorllewin Cymru. Rydym am sicrhau bod diwylliant, creadigrwydd a dysgu yn ategu ei gilydd ym mhob amgylchedd addysgol, ac yn parhau i fod yn rhan allweddol o baratoi ein pobl ifanc ar gyfer y dyfodol.

Mae ein sesiynau gyda phobl ifanc yn eu hannog i adeiladu eu hyder trwy sesiynau creadigol ac atyniadol, dan arweiniad ein tîm ymroddedig. Nid yw’r sesiynau hyn yn ymwneud ag actio a theatr yn unig, rydym yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn dysgu am les, sgiliau cymdeithasol, datrys problemau a gwaith tîm. Yn bwysicaf oll, rydym yn ceisio sicrhau bod pobl ifanc yn cael hwyl wrth wneud darganfyddiadau amdanynt eu hunain a'r byd o'u cwmpas.

  Cefnogwn pob maes dysgu a phrofiad o fewn y cwricwlwm newydd i Gymru a manylebau arholiadau presennol. Cyflawnir hyn trwy gydweithio ag athrawon, tiwtoriaid, neu rieni i greu gweithgareddau pwrpasol sydd wedi'u teilwra i gwrdd â'ch anghenion penodol.

Nod pob prosiect y mae Theatr y Torch yn ymgymryd ag ef yw bodloni’r meini prawf canlynol:  

  • Annog a meithrin profiadau cyfranogwyr a meithrin hyder yn eu huchelgeisiau.
  • Cefnogi a datblygu awydd i ddysgu am y theatr, pobl eraill yn y byd ehangach, a darganfod mwy amdanoch chi'ch hun.
  • Ysbrydoli cyfranogwyr fesul cynnig cyfleoedd i gyfrannu ac allbwn creadigol.
  • Meithrin iechyd corfforol a meddyliol unigol.
  • Gwerthfawrogi cyfraniad pawb i gymdeithas trwy eiliadau diogel, cynhwysol a chroesawgar o gysylltiad â dysgu creadigol, a rhaglennu ehangach Theatr y Torch. 

Gallwch fod yn sicr mai nod Theatr y Torch yw ysbrydoli ac ymgysylltu dysgwyr ar bob lefel mewn mannau diogel, creadigol sy'n hyrwyddo hygyrchedd a llesiant.

Rydym yn cynnig gweithdai, teithiau cefn llwyfan a lleoliadau gwaith.

I gael rhagor o wybodaeth, ac i ddechrau ar eich taith greadigol gyda ni, cysylltwch â'n Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned, Tim Howe – tim@torchtheatre.co.uk neu ffoniwch 01646 694192.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.