TORCH THEATRE CO

CYFLWYNO THEATR ERS 1977

Ers 1977, mae Cwmni Theatr y Torch wedi bod yn cynhyrchu a chyflwyno theatr o’i man cyfarfod yng Ngorllewin Cymru. Theatr y Torch ydy un o dair theatr lleoliad sy’n cynhyrchu theatr yng Ngorllewin Cymru ac ond yn un o dair theatr yng Nghymru sy’n cynhyrchu sioeau ei hun, ochr yn ochr gyda Sherman Cymru yng Nghaerdydd a Chlwyd Theatr Cymru.

Yn theatr broffesiynol sy'n cynhyrchu a chyflwyno, caiff ei chydnabod fel “Canolfan Celfyddydau Perfformio Rhanbarthol” gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac felly, yn cynnig rhaglen gynhwysfawr o weithgaredd celfyddydol. Mae'r cwmni yn derbyn cefnogaeth ariannol flynyddol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru (ACW) a Chyngor Sir Benfro (PCC), ac mae'r ddau noddwr mawr yma yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r cwmni. Yn ychwanegol i hyn, mae Cyngor Tref Aberdaugleddau (MHTC) yn darparu cefnogaeth ariannol.

Mae gan Gwmni Theatr y Torch enw da am gyflwyno cynyrchiadau theatr a sioeau teithiol o ansawdd uchel sy'n cynnig croeso cynnes. Mae cynyrchiadau arobryn Cwmni Theatr y Torch, sy'n cynnwys sioe Nadolig blynyddol, yn cael eu cyfarwyddo gan y Cyfarwyddwr Artistig Peter Doran.

Mae'r sioe Nadolig blynyddol yn sicrhau bod y Nadolig yn un o'r cyfnodau mwyaf prysur a chyffrous y flwyddyn gydag oddeutu 12,000 o ymwelwyr yn dod drwy ein drysau ar gyfer y pantomeim yn unig.

  

Mae'r tymor yma'n nodi ugain mlynedd Peter fel Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch, ac yn y cyfnod yna, mae e wedi cyfarwyddo dros hanner cant o gynyrchiadau yn cynnwys; Neville’s Island, The Woman in Black, Abigail’s Party, Taking Steps, Blue Remembered Hills, Little Shop of Horrors, One Flew Over the Cuckoo’s Nest, Of Mice & Men, Educating Rita, Bedroom Farce, Dead Funny, The Norman Conquests, An Inspector Calls, Accidental Death Of An Anarchist a The Turn of the Screw. Fe wnaeth Peter hefyd gyfarwyddo She Stoops to Conquer ac A Midsummer Night’s Dream, dau cyd-gynhyrchiad rhwng y Torch, Mappa Mundi a Theatr Mwldan.

Yn 2015, roedd Cwmni Cynhyrchu Theatr y Torch yn enillwyr dwbl Gwobr Laurel am ei chynyrchiadau wnaeth werthu pob tocyn o Grav ac Oh Hello! yng Ngŵyl Fringe Caeredin, ble wnaethant dderbyn adolygiadau gwych. Dros dair wythnos yr ŵyl, fe wnaeth y sioeau werthu pob tocyn ar gyfer 27 o berfformiadau gydad Oh Hello! yn cael ei pherfformio am ddiwrnod ychwanegol er mwyn ateb y gofyn am docynnau.

Cafodd y cwmni hefyd ei wahodd i berfformio darnau o'r ddau gynhyrchiad yn y dangosiad dyddiol o Pick of the Fringe. Mae'r digwyddiad yma'n cynnwys y sioeau gorau yn y Fringe ac mae'n acolâd a dderbyniwyd gan ond 260 o sioeau allan o 3500 o gynyrchiadau yn yr ŵyl. Roedd y Torch yn un o ond dau gwmni Cymreig a wahoddwyd i gymryd rhan.

Meddai'r Cyfarwyddwr Artistig Peter Doran: “Aethom i Gaeredin yn gwybod ein bod ni'n cystadlu gyda 3,500 o sioeau eraill bob dydd felly roeddem wir yn gobeithio y byddem yn cael digon o gynulleidfa i'w wneud yn werth chweil.

"Ni wnaethom erioed feddwl y byddem yn gwerthu pob tocyn ar gyfer pob sioe. I hefyd dderbyn Gwobrau Laurel, adolygiadau pum seren a chael eich gwahodd i wyliau rhyngwladol eraill - mae wir yn wych. Dywedodd un o gyfarwyddwyr Pick of the Fringe bwt arbennig pan ddywedodd ‘Os nad ydych wedi clywed am Theatr y Torch o'r blaen, rydych yn bendant wedi nawr’." 

 

Yn 2016, roedd cynhyrchiad Cwmni Theatr y Torch sef Grav, am fywyd y chwedl rygbi o Gymru, Ray Gravell, ar restr fer y Cyfarwyddwr Gorau, yr Actor Gorau, yr Awdur Gorau a’r Wobr Cynhyrchu Iaith Saesneg Orau, a enillodd y Wobr Cynulleidfa newydd, fel y pleidleisiwyd gan aelodau o'r cyhoedd. Dywedodd cyfarwyddwr Gwobrau Theatr Cymru, Mike Smith: “Dangosodd y pleidileisio am Grav sut roedd y sioe un dyn hon yn wirioneddol gysylltiedig â chynulleidfaoedd pan aeth ar daith o amgylch Cymru.”

Yn 2017 dyfarnwyd Gwobr y Cyfarwyddwr Gorau i Peter Doran am fod y'r Cyfarwyddwr Artistig Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru blynyddol am y cynhyrchiad dwyieithog Belonging/Perthyn (Re-Live mewn cysylltiad â Chapter). 

Nododd 2017 pen-blwydd Theatr y Torch yn 40 mlwydd oed. Deugain mlynedd fel cwmni cynhyrchu, gyda dros 200 o sioeau o dan eu gwregys. Fe ddathlodd Theatr y Torch y garreg filltir hon trwy lwyfannu'r eiconig One Flew Over the Cuckoo’s Nest gyda chast o bedwar ar ddeg actor, un o'r castiau mwyaf a welwyd erioed mewn sioe gan Theatr y Torch. Profodd y cynhyrchiad i fod yn un o sioeau gorau erioed Cwmni Theatr y Torch; gan dderbyn clod beirniadol ac adolygiadau 5 seren rhagorol.

Ym mis Mawrth 2018, cafodd Grav ei chwarae yn Efrog Newydd a hefyd Washington DC. Gwelodd 2019, Grav yn dechrau ar ei phumed thaith genedlaethol, gan sgorio ei 100fed ‘chap’ yn y Lyric Caerfyrddin ar ddydd Iau 7 Mawrth gan orffen gyda phedair sioe yn The Hope Theatre, Llundain, gan ddathlu perfformiad cyntaf o Grav ym mhrifddinas y DU.

Cinderella fydd 177fed cynhyrchiad gan Gwmni Theatr y Torch a’i 40ain Sioe Nadolig.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.