GADAEL RHODD YN EICH EWYLLYS

RHOI CYMYNRODD

Darganfyddwch sut mae cyfraniadau oddi wrth y bob sydd wedi dewis i’n cofio yn eu hewyllysiau wedi ein helpu i gefnogi ein gwaith- a sut y gallech chi wneud yr un peth. 

Mae rhoi cymynrodd yn sicrhau dyfodol diogel Theatr y Torch a rhyddid artistig. Mae rhoddion gan y rheiny sydd wedi dewis i’n cofio yn eu hewyllysiau wedi helpu i gefnogi ein gwaith ar lwyfan a thu cefn i’r llenni, yn cefnogi hyfforddiant actor, prosiectau addysgiadol a thrawsnewid ein theatr.

Sut mae’n gweithio
Pob blwyddyn, rydym yn derbyn rhoddion gan bobl sydd wedi’n garedig ein cofio yn eu Hewyllys. Mae cymynroddion mawr a bach wedi ein helpu ni i adeiladu Theatr y Torch, cynyrchiadau llwyfan, creu prosiectau addysgiadol, caniatáu hyfforddiant artist a thyfu ein cronfa gwaddol.

Sut mae gadael cymynrodd
Gall gadael rhodd i ni fod yn weddol syml. Dyma rhai canllawiau i chi ar eiriau i’w cynnwys yn eich Ewyllys, ond rydym yn argymell eich bod yn trafod cymynrodd gyda pherson proffesiynol fel awdur Ewyllys neu gyfreithiwr.

Gadael rhan o’ch ystâd i ni
Rwy’n rhoi (nodwch 'oll' neu nodwch 'rhan o ganran') o weddill fy ystâd i Gwmni Cyfyngedig Theatr y Torch, Heol San Pedr, Aberdaugleddau, Sir Benfro, Cymru, SA73 2BU (Rhif Elusen Gofrestredig. 508985) am ei bwrpasau elusennol cyffredinol. Rwyf yn cyfarwyddo’n bellach bod derbynneb fy nhrysor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad llawn a digonol i’m hysgutorion.

Gadael swm penodol i ni

Rwy’n rhoi’r swm o (nodwch 'oll' neu nodwch 'rhan o ganran') i Gwmni Cyfyngedig Theatr y Torch, Heol San Pedr, Aberdaugleddau, Sir Benfro, Cymru, SA73 2BU (Rhif Elusen Gofrestredig. 508985) am ei bwrpasau elusennol cyffredinol. Rwyf yn cyfarwyddo’n bellach bod derbynneb fy nhrysor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad llawn a digonol i’m hysgutorion.


Gadewch i ni wybod os yr ydych yn gadael cymynrodd 

Wrth ddweud wrthym eich bod wedi addo cymynrodd i ni, gallwn eich cadw wedi eich diweddaru am ein gwaith.

I’n hysbysu, e-bostiwch yr Uwch Reolwr Busnes Guy Woodham guy@torchtheatre.co.uk  neu ffoniwch 01646 694192.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.