SWYDDI GWAG

Aelod Bwrdd

Mae Cwmni Theatr Torch Cyfyngedig (y Torch), yn gwmni cynhyrchu theatr llwyddiannus gwobrwyedig. Mae’n croesawu dros 80,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Ochr yn ochr â chynyrchiadau ein cwmni ein hunain, mae’r lleoliad yn cyflwyno rhaglen artistig o safon uchel o theatr, cerddoriaeth a dawns yn ogystal â rhaglen sinema amrywiol, oriel a chyfleoedd ieuenctid, addysg ac ymgysylltu cyffrous.

Rydym nawr yn awyddus i benodi nifer o Aelodau Bwrdd Etholedig â chymwysterau addas sy'n angerddol am y celfyddydau, yn enwedig theatr fyw, sy'n ymroddedig i ddarparu gwasanaethau proffesiynol o ansawdd uchel ac sy'n ymroddedig i gyflawni nodau a dyheadau'r Torch.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dod yn rhan o Fwrdd Rheoli Theatr Torch (y Bwrdd) ac yn ymuno â hyd at 12 Aelod Bwrdd Etholedig a hyd at bedwar Aelod Bwrdd Enwebedig sy'n Gynghorwyr Sir/Tref.

Mae Theatr Torch yn gwmni cyfyngedig di-elw gyda statws elusennol gydag Aelodau’r Bwrdd yn cyflawni dwy rôl: yn gyntaf, fel Cyfarwyddwr y Cwmni Cyfyngedig ac yn ail, fel Ymddiriedolwr yr elusen gofrestredig. Mae gan bob rôl ddiben ychydig yn wahanol ac fe'i rheolir gan statud gwahanol. Er cysondeb, gelwir Bwrdd Rheoli Theatr Torch yn ‘y Bwrdd’ a Chyfarwyddwr/Ymddiriedolwr yn ‘Aelod o’r Bwrdd’. Mae'r swydd yn wirfoddol a heb dâl.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn annog ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned yn gadarnhaol, yn enwedig y rhai a dangynrychiolir ar draws y celfyddydau. Rydym hefyd yn awyddus i benodi Aelodau Bwrdd newydd a all ddangos un o'r setiau sgiliau dewisol canlynol: Rheolaeth Ariannol; Rheolaeth Artistig; Adnoddau Dynol (AD) a Chodi Arian. Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan y rhai sydd â’r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 12 canol dydd, dydd Mercher, 30 Ebrill 2025.

Swyddi gwag Theatr y Torch ar gyfer staff Caffi achlysurol

Mae Theatr y Torch yn chwilio am unigolion llawn egni i ymuno â’n tîm Blaen Tŷ fel Cynorthwywyr Caffi achlysurol. Os oes gennych chi angerdd am wasanaeth cwsmeriaid a bod gennych chi brofiad o waith mewn caffi, gallai hwn fod yn gyfle gwych i chi.

Fel Cynorthwyydd Caffi achlysurol byddwch yn gyfrifol am:

  • Groesawu a gwasanaethu cwsmeriaid sy'n ymweld â Chaffi'r Torch, mewn modd cyflym ac effeithlon gan aros yn ddigynnwrf mewn amgylchedd a all fod yn brysur;
  • Pob agwedd ar weini bwyd a diod gan gynnwys gweithredu system til yr ICR;
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid cyson o ansawdd uchel mewn rôl sy'n gallu bod yn gyflym iawn ar adegau;
  • Clirio, sychu a thacluso byrddau ym mhob ardal o’r caffi, gan gynnwys golchi llestri wrth baratoi ar gyfer gwasanaeth;
  • Dilyn yr holl weithdrefnau hylendid a glanweithdra bwyd yn drylwyr;
  • Gweithio mewn cydweithrediad â staff theatrau eraill i ddarparu gwasanaeth di-dor ar draws yr holl weithrediad arlwyo; a
  • Chydymffurfio bob amser â pholisïau a gweithdrefnau Theatr y Torch

 

Rydym yn chwilio am unigolion gyda:

  • Agwedd o 'allu gwneud' tuag at waith;
  • Profiad blaenorol o weithio mewn caffi neu amgylchedd manwerthu;
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, hyder a hunan-gymhelliant;
  • Personoliaeth onest a chyfrifol;
  • Y gallu i ddatrys problemau ar unrhyw adeg benodol;
  • Parodrwydd i fod yn hyfforddedig ac yn hyderus wrth ddefnyddio'r peiriant coffi a'r tiliau;
  • Sylw rhagorol i fanylder a phrydlondeb; a
  • Sgiliau tîm ardderchog

 

Caiff oriau agor ein caffi eu pennu gan ein rhaglenni theatr a sinema a byddant yn amrywio’n rheolaidd. Rydym felly'n gweithredu system shifft/rota gydag oriau wedi'u cytuno o flaen llaw gyda'r Rheolwr Blaen Tŷ a Gweithrediadau. Bydd angen rhai sifftiau cynnar a/neu hwyr dros yr wythnos, penwythnosau a Gwyliau Banc. Felly mae argaeledd yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Gwerhfawrogwn amrywiaeth ac rydym yn annog ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned yn gadarnhaol, yn enwedig y rhai a dangynrychiolir ar draws y gweithlu celfyddydol.

Bydd cyfraddau cyflog byw fesul awr/Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn berthnasol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am swydd Cynorthwyydd Caffi achlysurol, darparwch Gofnod Cyrhaeddiad (CV) diweddar a llythyr eglurhaol ynghyd â ffurflen fonitro Cyfle Cyfartal wedi'i chwblhau i Marcus Lewis, Uwch Reolwr - Blaen Tŷ a Gweithrediadau, Cwmni Theatr y Torch Cyf, Heol San Pedr, Aberdaugleddau SA73 2BU neu e-bostiwch: marcus@torchtheatre.co.uk.

Marciwch eich e-bost: Cyfrinachol – Cais Cynorthwyydd Caffi Achlysurol

Ceir rhagor o fanylion am y swydd a'r ffurflen monitro Cyfle Cyfartal isod.

Mae hon yn ymgyrch recriwtio gyffredinol barhaus a chaiff ceisiadau eu hystyried yn unigol ar ôl derbyn CV a llythyr eglurhaol.

❉ Please note that Welsh language versions of the forms are available, please click on the Welsh flag in the top right-hand corner to access these.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.