MAE'R TORCH YN BODOLI AR GYFER EI CHYNULLEIDFAOEDD ...
EIN CENHADAETH
Mae Theatr y Torch yn bodoli ar gyfer ei chynulleidfaoedd. Maent yn disgwyl ac yn haeddu'r gorau. Ein cenhadaeth yw i gwrdd – a rhagori - eu disgwyliadau.
Theatr y Torch yw'r theatr lleoliad gynhyrchu fwyaf yng ngorllewin Cymru, yn cynnig rhaglen wych o weithgaredd celfyddydol nodedig, perthnasol a hygyrch sydd â chynulleidfa ffyddlon sy'n tyfu. Gweithgaredd craidd Theatr y Torch ydy drama wedi ei chynhyrchu o adref ac mae wedi profi i fod yn allweddol i lwyddiant a hunaniaeth y theatr.
EIN GWELEDIGAETH
O fewn ein safle yma yng ngorllewin Cymru, ein bwriad ydy creu profiadau cofiadwy ac ysbrydoledig ar draws y genedl – ar gyfer pob person, ym mhob lle a phob amser.
Mae'r amser wedi dod i Theatr y Torch i gofleidio'r dyfodol gyda hyder a grym wedi eu hadnewyddu. Ein gweledigaeth yw creu rhaglen ddeinamig, o ansawdd uchel o ddrama wedi ei chynhyrchu adref sy'n gallu cyseinio tu hwnt i'n safle drwy gynyrchiadau theatr teithiol sydd wedi ysbyrdoli'r fath ffyddlondeb yn ein cynulleidfaoedd. Ein bwriad ydy cysylltu gyda thraws-doriad mor eang â phosib gyda'r amryw o waith yr ydym yn llwyfannu a gwneud y gwaith yna yn hygyrch i bawb. Drwy wneud hynny, rydym yn bwriadu gwella ein enw da am ragoriaeth, i ysbrydloi, datblygu cynulleidfaoedd newydd, a sylweddoli lle Theatr y Torch fel lle hanfodol, yn rhan “rhaid ei gweld” o dirlun cynhyrchu theatr.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.